Datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn dyfarniad llys

36 diwrnod yn ôl

Yn dilyn y dyfarniad heddiw, mae Cyngor Sir Caerfyrddin am ddatgan unwaith yn rhagor ei fod yn cydymdeimlo o waelod calon â dioddefwyr y digwyddiad a chymuned gyfan Ysgol Dyffryn Aman.

Bu i'r digwyddiad yn yr ysgol ar 24 Ebrill 2024 synnu ac arswydo cymunedau Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Nid oes gan drais, o unrhyw fath, unrhyw le yn ein hysgolion nac mewn unrhyw agwedd ar gymdeithas.

Hoffwn ddiolch eto i'r gwasanaethau brys a ymatebodd yn gyflym yn ystod y digwyddiad hwn, ynghyd â'r athrawon, staff, disgyblion, swyddogion y cyngor a'r gymuned leol.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Heddlu Dyfed-Powys am eu gwaith diwyd yn yr oriau, dyddiau ac wythnosau yn dilyn y digwyddiad; rydym ni fel awdurdod lleol yn gwerthfawrogi ein partneriaeth weithio â nhw yn fawr.

Gan fod yr achos wedi dod i ben, bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio yn awr i adolygu amgylchiadau'r achos hwn ac i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal digwyddiad o'r fath rhag digwydd eto.

Mae'r cadernid a'r tosturi sy'n rhan annatod o'r gymdeithas glos yn Ysgol Dyffryn Aman wedi galluogi'r disgyblion i ddychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth cyn gynted ag yr oedd yn ddiogel gwneud hynny, er eu budd a'u llesiant eu hunain. Rwy'n mawr obeithio y bydd dyfarniad heddiw yn caniatáu i'r dioddefwyr a'r ysgol symud ymlaen yn dilyn y digwyddiad ofnadwy hwn a bydd eu preifatrwydd yn cael ei barchu. Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ardderchog a hir y parhaed y gwaith rhagorol mae'n ei wneud yn addysgu plant a phobl ifanc Rhydaman."

Y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin