Cyrchfan Clyd Cymru yn lansio ei ganllaw 'Cwtsho' diweddaraf

4 awr yn ôl

Mae gwyliau bach ‘Cwtsh’ newydd Sir Gaerfyrddin yn rhoi sylw i fyd natur, crefftau, bwyd a gwerth am arian ar y teithiau gaeaf gorau gyda ffrindiau a theulu –

Mae Sir Gaerfyrddin yn parhau â'i hymgais i gael ei chydnabod fel 'cyrchfan clyd' y gaeaf hwn ac mae ei chanllaw newydd 'Cwtsho Lan yn Sir Gâr' yn cynnwys naw awgrym newydd i ymwelwyr ar sut i fwynhau'r gwyliau gorau yn y gaeaf yn y sir.

Mae Cwtsho Lan yn Sir Gâr yn fenter a ddatblygwyd gan dîm Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rheoli Darganfod Sir Gâr, sef gwefan cyrchfannau i ddefnyddwyr.

Mae’r canllaw, sy’n llawn syniadau ar gyfer gwyliau’r gaeaf gan gynnwys lleoedd i aros a phethau i’w gwneud, yn cynnwys awgrym ar sut i brofi gwyliau mwyaf gwlanog Cymru, gydag ymweliad â’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol a gwersi ar sut i nyddu gwlân a gwehyddu gwlyb.

Neu, beth am ymuno â’r gurus coffi o Sir Gaerfyrddin yn ‘academi’ Coaltown roastery ar gyfer un o’u gweithdai gwneud coffi newydd, sy’n siŵr o’ch cynhesu ar ddiwrnod oer? Mae yna hefyd ddigonedd o lefydd anhygoel i chwilio am flancedi Cymreig newydd a hen ffasiwn wrth i chi grwydro o amgylch y trefi marchnad hardd, gan gynnwys Bumble Bees of Llandovery, The Welsh wool shop yng Nghastellnewydd Emlyn a Siopau Davies & Co yn Llandeilo a Llanymddyfri.

Mae yna naw o wyliau bach â thema, sy'n amrywio o rai i bobl sy'n dwlu ar fwyd i rai i'r rheiny sy'n mwynhau syllu ar y sêr sy'n cynnwys Taith Gerdded Leuad Lawn o amgylch bryngaer o'r oes haearn. Neu bydd teuluoedd yn mwynhau gwyliau natur bythgofiadwy wrth ddysgu am dylluanod a mynd am dro yn y coetir lle bydd cyfle i weld adar ysglyfaethus yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain.

 

Er nad yw’r Llychlynwyr wedi bod yn swil wrth rannu eu cynghorion gaeafol ar ‘hygge’, mae’r Cymry hefyd yn gwybod ambell beth saiam sut i ddod o hyd i gynhesrwydd a chyffyrddusrwydd gyda'r term ‘cwtsh’. Gall feddwl cofleidio neu gwpwrdd lle rydych chi’n cadw pethau’n ddiogel, ac yn Sir Gaerfyrddin mabwysiadwyd y gair i olygu cwtsh i’r enaid, sy'n berffaith ar gyfer misoedd y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Pa le gwell i fynd ar wyliau bach clyd y gaeaf hwn na Sir Gaerfyrddin. Mae’r rhan hardd hon o orllewin Cymru yn cynnig croeso cynnes i bob ymwelydd ar draws ystod eang o leoliadau lletygarwch sydd ar gael ledled y sir.” 

Ticio'r Rhestr Cwtsh!

Felly, lapiwch yn eich dillad gwlân cynhesaf yn y tywydd gaeafol i ddarganfod eich cwtsh perffaith yn Sir Gaerfyrddin a gweld faint o brofiadau y gallwch chi eu ticio oddi ar y ‘rhestr cwtsh’ i sicrhau’r gwyliau bach mwyaf clyd – gan fwyta cacen, siopa am hen flancedi Cymreig, mynd yn fwdlyd ac eistedd mewn caffi yn darllen llyfr da. Cofiwch eich sliperi! (Rhestr lawn isod yn Nodiadau'r Golygydd).

Defnyddiwch #cwtsholansirgâr i ddilyn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.

I weld rhestr lawn o wyliau Cwtsho Lan yn Sir Gâr ewch i: https://www.discovercarmarthenshire.com/explore/cwtch-up-in-carmarthenshire/

A dyma rai o’r gwyliau 'Cwtsho Lan’ newydd o ganllaw 2025:

1)      Cwtsh Gwlanog

Dewch i weld byd cwbl newydd o wlân Cymreig clyd ar Benwythnos Gwlanog. Ymunwch â Lisa o Quiet Walks ar gyfer Gweithdy Gwehyddu a Cherdded undydd, lle byddwch yn cael profiad ymarferol ac yn dysgu sut i droi cnu yn fat defnyddiol. Os ydych chi'n cael eich denu at ffeltio, mae'r artist tecstilau Jane Evans yn cynnig Gweithdai Ffeltio Gwlyb diwrnod llawn ger Llanymddyfri. Mae’n gyfle perffaith i ymlacio, dysgu sgil newydd, a gadael gyda darn syfrdanol o waith rydych chi wedi’i greu eich hun. I gael rhagor o brofiadau gwlanog, mae Nellie ac Eve yn cynnig amrywiaeth o weithdai mewn nyddu gwlân, lliwio â phlanhigion, gwehyddu, a gweu â llaw mewn lleoliadau amrywiol.

2)      Gwyliau â’ch Ci

Ewch â'ch ci gyda chi ar eich gwyliau a gallwch arbed talu biliau cenel hefyd. Ar ben hynny, mae ystafelloedd yn y Caban, gerllaw traeth godidog Pentywyn, sy'n saith milltir o hyd, yn costio llai na £100 y noson. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg y drws a gallwch fynd ar lawer o deithiau cerdded hefyd. Tra bod eich ci yn cysgu, ewch i’r Amgueddfa Cyflymder Tir newydd.

3)      Pryd o fwyd

Beth am gael pryd o fwyd yn The Inn at the Sticks yn Llansteffan, a enwyd yn Fwyty Lleol Gorau Cymru 2024 y Good Food Guide. Yna, beth am fwynhau danteithion yn Llandeilo gan aros yn Flows on Market St, Pitchfork & Provision becws crefftus, a Wright's gerllaw yn Llanarthne. Ydych chi'n mwynhau coffi? Dewch i ddysgu'r grefft o wneud coffi ar gwrs Coaltown’s Academy yn Rhydaman.

I gael rhagor o wybodaeth am bopeth yn ymwneud â gwyliau gaeaf yn 2025, ewch i www.darganfodsirgar.com/