Buddsoddi mewn unedau busnes carbon isel yn Sir Gaerfyrddin
16 awr yn ôl
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi mewn darparu datblygiad masnachol cynaliadwy gwerth £12m fel rhan o ymrwymiad i dwf economaidd gwyrdd.
Mae Parc Gelli Werdd yn cynnwys 26 o weithdai a swyddfeydd o'r safon uchaf yn Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands. Mae tair uned ar ddeg eisoes wedi'u meddiannu, gyda thri arall yn cael eu cynnig, gan ddangos galw cryf yn y farchnad am safleoedd busnes cynaliadwy.
Mae'r datblygiad carbon isel, sy'n rhan o Gynllun Cyflawni Eiddo Llywodraeth Cymru, yn cynnwys inswleiddio o safon uchel a phaneli solar wedi'u gosod ar y to a fydd yn sicrhau costau rhedeg llai ac o fudd i'r amgylchedd.
Y nod wrth ddylunio'r datblygiad oedd bwrw'r 'targed carbon Sero Net', ac mae ynddo system arloesol i reoli'r adeiladau, sy'n cynnwys platfform mesur a monitro pwrpasol er mwyn monitro biliau a pherfformiad yn fanwl. Bydd yn caniatáu i'r tenantiaid reoli'u defnydd o drydan er mwyn sicrhau effeithlonrwydd o ran costau.
Wrth siarad ar y safle yn dilyn digwyddiad busnes rhanbarthol yng Nghaerfyrddin, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Rydym yn benderfynol o ysgogi twf economaidd gwyrdd, creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a chefnogi trosglwyddiad Cymru i economi carbon isel.
Rwyf wedi siarad â chynifer o fusnesau yma yn Sir Gaerfyrddin ac mewn mannau eraill sydd wedi bod yn glir bod creu mannau busnes lleol, sydd â chysylltiadau da, o ansawdd uchel sy’n gweithredu’n gynaliadwy, yn flaenoriaeth ar gyfer ehangu a chreu swyddi.
Mae datblygiad Parc Gelli Werdd wedi'i adeiladu i safonau amgylcheddol eithriadol a bydd yn lleihau costau gweithredol ar gyfer busnesau tra'n lleihau'r effaith amgylcheddol, yn unol â'r Cynllun Strategol Sero Net.
Ymhlith y cwmnïau cyntaf i feddiannu unedau ar y safle mae Conquer Teamwear. Dywedodd perchennog y cwmni, Chris Jones:
Mae symud i unedau 3 a 4 ym Mharc Gelli Werdd wedi bod yn hwb mawr i'n busnes a bydd yn helpu gyda thwf parhaus Conquer Teamwear. Mae'r unedau o fanyleb uchel iawn ac mae'r lleoliad yn berffaith i'n staff a'n cwsmeriaid, dim ond ychydig funudau oddi ar y ffordd ddeuol a chylchfan Cross Hands.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price:
Mae datblygiad Parc Gelli Werdd yn enghraifft bwysig o sut y gall yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddarparu gofod busnes o ansawdd uchel sy’n gweithredu’n gynaliadwy. Mae'r Cyngor Sir wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan weithio tuag at ein nod Carbon Sero Net, ac mae gofod busnes fel hyn yn profi bod yr uchelgais hwn yn bosibl.
Mae'n galonogol gweld nifer o fusnesau Sir Gaerfyrddin eisoes yn defnyddio'r gofod hwn, gan ganiatáu iddynt dyfu eu busnes i greu swyddi lleol a dilyn eu nodau cynaliadwyedd eu hunain wrth symud ymlaen.