Achrediad Coedwig Genedlaethol Cymru – Gwarchodfa Natur Ynysdawela

8 diwrnod yn ôl

Mae'r Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored yn falch o gyhoeddi bod statws mawreddog Coedwig Genedlaethol Cymru wedi'i ddyfarnu i Warchodfa Natur Ynysdawela. Daw'r anrhydedd hon ar ôl i'r Dirprwy Brif Weinidog gadarnhau'r gydnabyddiaeth, gan nodi cyflawniad sylweddol i'n hymdrechion cadwraeth.

Mae'r achrediad yn dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm cadwraeth, sydd, gyda chefnogaeth Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cymru, wedi gwella'r warchodfa goetir yn sylweddol. Mae'r cyllid wedi galluogi ystod o weithgareddau rheoli tir ymarferol gyda'r nod o gyfoethogi profiad y gymuned leol a chynnal bioamrywiaeth gyfoethog y warchodfa.

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dilyn llwyddiant cynharach ennill statws Coedwig Genedlaethol Cymru ar gyfer Parc Coetir Mynydd Mawr ym mis Mai eleni. Mae'r achrediadau olynol yn tanlinellu ymrwymiad diwyro ein gwasanaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng Natur a'r Hinsawdd a gafodd ei ddatgan gan y cabinet.

Mae ein hymdrechion yn Ynysdawela wedi canolbwyntio ar greu ecosystem gynaliadwy a ffyniannus. Rydym wedi gweithredu mesurau amrywiol i ddiogelu rhywogaethau brodorol, adfer cynefinoedd, ac annog y gymuned lleol i ymgymryd â gweithgareddau cadwraeth. Mae'r mentrau hyn yn hanfodol wrth hyrwyddo bioamrywiaeth a sicrhau bod y warchodfa yn parhau i fod yn warchodfa hanfodol i fywyd gwyllt.

Mae statws newydd Gwarchodfa Natur Ynysdawela fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru nid yn unig yn amlygu ein hymroddiad i stiwardiaeth amgylcheddol ond hefyd yn gwella proffil y warchodfa. Bydd yn fodel ar gyfer prosiectau cadwraeth eraill, gan ddangos effaith ymdrechion cydweithredol rhwng cyrff y llywodraeth a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Gwarchodfa Natur Ynysdawela ar y cyflawniad gwych hwn. Llongyfarchiadau i'r tîm cadwraeth gweithgar, y mae ei waith pwysig yn helpu i warchod amgylchedd prydferth Sir Gaerfyrddin, edrychaf ymlaen at weld beth fydd y warchodfa natur hon yn ei gyflawni nesaf.
Wrth i ni ddathlu'r cyflawniad hwn, edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith o gadw a chyfoethogi ein tirweddau naturiol. Mae cydnabod Gwarchodfa Natur Ynysdawela yn cryfhau ein penderfyniad i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan feithrin cysylltiad dyfnach rhwng pobl a natur.

Mae achrediad Coedwig Genedlaethol Cymru ar gyfer Gwarchodfa Natur Ynysdawela yn garreg filltir arwyddocaol. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gadwraeth amgylcheddol, ymgysylltu â'r gymuned, ac arferion rheoli tir cynaliadwy. Rydym yn falch o'n cyflawniadau ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol ar ein byd naturiol.