Bouygues UK yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau Gydag ymweliad â Choleg Sir Gâr

89 diwrnod yn ôl

Bu Tom Reed, sy’n rheolwr safle cynorthwyol Bouygues UK ac un o gyn-brentisiaid Cyfle, yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau gydag ymweliad â Choleg Sir Gâr yn Rhydaman i gwrdd â’r grŵp presennol o brentisiaid sy’n dysgu am y byd adeiladu.

Mae Bouygues UK a Whiteheads Building Services wedi ymrwymo i gefnogi 10 prentis mecanyddol a thrydanol trwy Gynllun Prentisiaid Sgiliau Adeiladu ar y Cyd Cyfle, sy’n galluogi prentisiaid i gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn trwy weithio gyda nifer o gyflogwyr lleol gwahanol i ennill y setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn gymwysedig.

Dechreuodd Tom fel un o brentisiaid plymio Cyfle ac mae bellach yn Rheolwr Safle Cynorthwyol i Bouygues UK ar brosiect mawreddog Pentre Awel yn Sir Gaerfyrddin. Dychwelodd i’r coleg i ysbrydoli dysgwyr yn y coleg i ystyried prentisiaeth ar gyfer y rhan nesaf o’u taith ddysgu.

Meddai Tom, sy’n 31 oed, ac yn dod o Gaerdydd:

Dewisais i ymgymryd â phrentisiaeth mewn plymio gan fy mod i’n gwybod y byddai dysgu crefft yn sgil bywyd. Yn ystod fy mhrentisiaeth ddwy flynedd, roeddwn i’n ddigon ffodus i deithio i Uganda gyda Cyfle, a oedd yn noddi fy mhrentisiaeth. Es i yno am bythefnos i helpu i adeiladu, a rheoli’r gwaith o adeiladu, ward mamolaeth. Tra roeddwn i yno, gwelais i drosof fy hun yr effaith y gall adeiladu ei chael ar gymuned. Penderfynais i orffen fy mhrentisiaeth ac yna mynd i’r brifysgol i wneud gradd mewn rheoli prosiectau adeiladu.

Yn ystod ei ail flwyddyn yn y brifysgol, cynigiwyd lleoliad haf i Tom ar safle Campws Arloesedd Caerdydd Bouygues UK, cyn cael cynnig swydd dan hyfforddiant ar raglen Reolaeth Bouygues.

Ychwanegodd:

Roeddwn i’n gallu astudio’n rhan amser yn y brifysgol un diwrnod yr wythnos a gweithio ar y safle am y pedwar diwrnod arall. Ers gorffen fy ngradd yr haf diwethaf, rwyf wedi cael fy nyrchafu’n Rheolwr Safle Cynorthwyol, a chredaf fod cael y cyfle i ‘ennill a dysgu’ wedi helpu fy natblygiad proffesiynol yn aruthrol.
Rwy’n credu bod y sgiliau a ddysgais i fel plwmwr yn ystod fy mhrentisiaeth wedi fy helpu’n aruthrol ym mhob agwedd ar fy rôl bresennol. P’un a ydych chi am ddilyn gyrfa fel crefftwr yn y diwydiant neu ei ddefnyddio fel cam tuag at reolaeth, mae prentisiaeth yn beth gwych i’w wneud.

Pentre Awel, sef datblygiad arloesol sy’n werth miliynau o bunnoedd, a gaiff ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr, yw’r cynllun adfywio mwyaf yn Ne Orllewin Cymru. Mae’n rhoi cyfle unigryw i’r rhai sy’n dilyn prentisiaeth ar hyn o bryd.

Meddai Harrison Griffiths, un o brentisiaid Technegol Cyfle sydd ar leoliad tymor hir gyda Bouygues UK ar hyn o bryd:

Mae gwneud prentisiaeth yn ffordd ddelfrydol o gael dechrau yn y diwydiant ac mae wedi bod yn wych gweithio ar gynllun mor fawreddog â Phentre Awel. Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o'r tîm ar y safle a dysgu cymaint â phosibl am sut mae safle'n gweithio, a'r gwaith sy'n mynd i mewn i adeiladu prosiect mawr fel Pentre Awel. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n meddwl am yrfa ym maes adeiladu i ystyried prentisiaeth.

Meddai Lynette Anthony o Cyfle:

Roedd yn wych cael Tom o Bouygues UK yma heddiw i esbonio i’r myfyrwyr sut mae’r prentisiaethau’n gweithio i gontractwr Haen 1 fel Bouygues UK, a’r ymrwymiadau sydd ganddynt gyda’u his-gontractwyr i ddarparu prentisiaethau’n uniongyrchol. a thrwy gynllun Cyfle. Roedd hefyd yn wych bod Tom yn gallu esbonio ei lwybr trwy ei brentisiaeth, o blymio i reolwr safle cynorthwyol.
Mae’r diddordeb heddiw wedi bod yn galonogol iawn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr Coleg Sir Gâr ar gynlluniau prentisiaeth a phrofiad gwaith.

Meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cyfleoedd am brentisiaethau yn hanfodol i bobl Sir Gaerfyrddin. Mae'n galluogi pobl ifanc sy'n byw yn y sir i ddysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd gwaith. Bydd datblygiad mawreddog Pentre Awel yn creu dros 1,800 o swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd am brentisiaethau i’r rhai sy’n byw yn Llanelli a’r cyffiniau. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc yn dilyn esiampl Tom ac yn dewis gwneud prentisiaeth a datblygu gyrfa yma yn Sir Gaerfyrddin.