Y Cyngor yn talu teyrnged i'r cyn-bencampwr byd Terry Griffiths

24 diwrnod yn ôl

Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, wedi talu teyrnged i un o feibion enwocaf Llanelli ac un o fawrion y byd snwcer, Terry Griffiths OBE, yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth.

Yn Gymro balch, enillodd Terry Griffiths Bencampwriaeth y Byd yn 1979 a'r Meistri yn 1980, cyn cwblhau 'Coron Driphlyg' snwcer yn 1982 trwy ennill Pencampwriaeth y DU.

Ef hefyd oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 1979.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr proffesiynol yn 1997, bu Griffiths yn hyfforddi ac yn mentora rhai o'r chwaraewyr gorau yn hanes y gêm, ac yn eu plith roedd Stephen Hendry, Mark Williams a Ronnie O'Sullivan.

Cafodd lwyddiant hefyd yn sylwebu, ac roedd y rheiny sy'n dwlu ar y gamp yng Nghymru a ledled y byd yn llawn edmygedd ohono.

Wrth siarad ar ran y Cyngor dywedodd y Cynghorydd Darren Price:

Bydd Terry Griffiths yn cael ei gofio fel un o enwau mwyaf snwcer, ac fe ysbrydolodd ei gemau yn erbyn pobl fel Alex Higgins, Dennis Taylor a Steve Davis genedlaethau o bobl ar draws y byd.

Roedd Terry yn hynod falch o'i dref enedigol, ac fe wnaeth ei lwyddiant anhygoel roi Llanelli, Sir Gaerfyrddin a Chymru ar y map.

Wrth weithio fel sylwebydd ac wrth roi ei sylwadau craff, trosglwyddodd ei arbenigedd deallus i filiynau o wylwyr snwcer, a hynny yn ei acen Llanelli gref a chynnes. Roedd ei gariad at y dref yn amlwg pan sefydlodd Terry Griffiths Matchroom yn Llanelli pan oedd ei yrfa chwarae yn ei hanterth.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Terry yn eu colled.”