Teyrnged i Mary Keir, person hynaf Cymru a phreswylydd yng Nghartref Gofal Awel Tywi
2 diwrnod yn ôl
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rydym ni i gyd wedi tristáu o glywed am farwolaeth Mary Keir, ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â mab a merch-yng-nghyfraith Mary, ei theulu a'i ffrindiau.
Yn 112 oed, Mary oedd person hynaf Cymru ac mae gen i atgofion melys o ymweld â hi ar sawl achlysur yng Nghartref Gofal Awel Tywi, a siarad â hi am ei bywyd rhyfeddol.
Hoffwn i ddiolch hefyd i'r staff hyfryd yn Awel Tywi am eu gofal rhagorol dros Mary a holl breswylwyr y cartref gofal.”