Rhybudd Tywydd Coch - cyfleusterau hamdden a gwastraff Cyngor Sir ar gau ddydd Sadwrn
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu cau ei gyfleusterau hamdden yfory, dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024, yn dilyn y Rhybudd Coch am Wynt gan y Swyddfa Dywydd.
Mae'r Rhybudd Coch mewn grym rhwng 3am ac 11am ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl cyfnod o wyntoedd cryf ofnadwy wrth i Storm Darragh symud ar draws Môr Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd hyrddiadau o 90 milltir yr awr neu fwy ar fryniau ac arfordir gorllewin a de Cymru.
Gan roi'r pwys mwyaf ar ddiogelwch y cyhoedd, y cyngor a roddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw peidio â theithio oni bai bod hynny'n gwbl hanfodol. Mae'r Awdurdod Lleol hefyd wedi penderfynu cau i'r cyhoedd y safleoedd canlynol (sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor) drwy'r dydd yfory, dydd Sadwrn 7 Rhagfyr.
- Canolfannau gwastraff ac ailgylchu y cartref
- Amgueddfeydd
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Orielau
- Cartref Dylan Tomas
- Theatrau
- Parciau Gwledig
- Canolfannau Hamdden
- Hwb Bach y Wlad
- Canolfan Eto
- Holl Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr
Bydd pob safle yn aros ar agor tan yr amser cau arferol heddiw, dydd Gwener 6 Rhagfyr.
Ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus bore fory tan 2pm.
Hefyd bydd criwiau ac adnoddau ychwanegol wrth gefn gan y Cyngor Sir dros y penwythnos, a fydd yn barod i ymateb i'r amodau wrth iddynt newid.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae Rhybuddion Coch yn brin iawn a dyna pam rydym ni'n cau ein canolfannau hamdden a gwastraff ddydd Sadwrn.
Fy neges i drigolion y sir ac i unrhyw ymwelwyr yw peidio â theithio heblaw bod gwir angen, a da chi, cadwch yn ddiogel.”
Sut i roi gwybod am broblemau'r tu allan i oriau
Rhoi gwybod am atgyweiriadau ar gyfer tai Cyngor
Rhowch wybod am waith atgyweirio brys/mawr drwy ffonio 0300 333 2222 neu ar-lein
Bydd Delta Wellbeing yn cymryd y galwadau hyn y tu allan i oriau.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o alwadau brys dros y penwythnos. Rhowch wybod i ni ar-lein am fân atgyweiriadau.
Cofiwch taw ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau yn unig mae'r uchod, yn ystod oriau gwaith normal dylech ddilyn proses arferol y Cyngor ar gyfer rhoi gwybod am bryderon.
Rhowch wybod am goed sydd wedi cwympo ar wefan y Cyngor Rhoi gwybod am goed sy'n achosi perygl / sydd wedi cwympo
Llifogydd
Gallwch gael diweddariadau o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud.
Os ydych yn pryderu am lifogydd ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am broblemau, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin
Diweddariad gan National Grid - Dydd Gwener 13 Rhagfyr - 8am
Diweddariad gan National Grid - Dydd Gwener 13 Rhagfyr - 8am
Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos i adfer pŵer i gartrefi a busnesau sy'n parhau heb bŵer yn dilyn Storm Darragh. Am 8am, roedd 109 o gwsmeriaid yn parhau heb bŵer yn Ne Cymru.
Mae pŵer bellach wedi cael ei adfer ar gyfer y mwyafrif helaeth o gwsmeriaid a gollodd bŵer o ganlyniad i'r storm. Mae rhai mannau lle mae niferoedd bach o gwsmeriaid yn parhau heb bŵer, ac mae gennym dimau yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i adfer hyn cyn gynted â phosibl.
Mae generaduron a phecynnau batri yn cael eu darparu i gwsmeriaid agored i niwed, ac rydym yn darparu bwyd a diodydd twym yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf, ac mae mannau cynnes wedi cael eu hagor mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol. Mae'r Groes Goch yn cynorthwyo ein staff i gynnal gwiriadau lles ymhlith y rhai heb bŵer.
Gall cwsmeriaid gael cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan a drwy ffonio 105 ar unrhyw adeg.
Gall cwsmeriaid De Cymru sydd heb drydan gael bwyd a diodydd twym am ddim drwy faniau lles yn y lleoliadau canlynol:
- Marchnad Da Byw Tregaron, Swyddfa Newydd y Mart, Ffordd yr Orsaf SY25 6HX
- AWS, Old Saw Mills Llangadog, SA19 9LS
- Heol Gelligron, Pontardawe, SA8 4NP
- Canolfan Frechu Covid, Cwm Cou, Castellnewydd Emlyn, SA38 9PE
- Neuadd Bwlchygroes, SA35 0DP
- Neuadd Abercych SA37 0HP (o 4pm)
- Talyllychau, Cilfan ger yr ysgol, SA19 7YR (o 7.15pm)
- Neuadd Bentref Llanboidy, SA34 0EJ (o 6pm)
- Neuadd Eglwys Brechfa, SA32 7RA (o 6pm)
Os oes gennych doriad newydd yn y pŵer, rhowch wybod ar-lein neu ffoniwch ni ar 105.
Diweddariad ffyrdd
Mae holl ffyrdd A a B wedi'u clirio o goed sydd wedi cwympo. Ar hyn o bryd, a thros y dyddiau nesaf ac i mewn i’r penwythnos, mae ein criwiau gyda chefnogaeth gan gontractwyr coed yn clirio rhwystrau ar ein ffyrdd bach a di-ddosbarth.
Faniau Lles y National Grid
Mae’r National Grid wedi sicrhau bod Fan Les ar gael i gwsmeriaid heb drydan i gael mynediad at fwyd poeth am ddim yn y lleoliadau canlynol tan 10pm heno:
- Marchnad Da Byw Tregaron, Swyddfa'r Mart Newydd, Heol yr Orsaf SY25
- Canolfan Brechu Covid, Cwm Cou, Castell Newydd Emlyn, SA38 9PE
- Neuadd Abercych SA37 0HP
- Neuadd Bwlchygroes, SA35 0DP
- AWS, Old Saw Mills, Llangadog, SA19 9LS
- Talyllychau, cilfan ger yr ysgol, SA19 7YR
- Neuadd Bentref Llanboidy, SA34 0EJ
- Neuadd Eglwys Brechfa, SA32 7RA
Bydd pob un o'n canolfannau hamdden ar Nos Fercher a Nos Iau tan 10.00pm (11-12 Rhagfyr)
Canolfannau galw heibio
Bydd pob un o'n canolfannau hamdden ar Nos Fercher a Nos Iau tan 10.00pm (11-12 Rhagfyr) ar gyfer y rhai sydd heb drydan neu heb gyfleustodau eraill oherwydd Storm Darragh.
Bydd Canolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanymddyfri, Llanelli, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr yn aros ar agor tan 10:00pm fel canolfannau galw heibio i breswylwyr.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
Man cynnes gyda diodydd twym ar gael
Cyfleusterau gwefru ar gyfer dyfeisiau trydan
Dŵr twym - gall pobl ddod â'u fflasgiau eu hunain i'w llenwi a mynd â nhw adref
Cyfleusterau cawod ar gael i’w defnyddio
Diweddariad ffyrdd
Mae ein criwiau, gyda chefnogaeth gan gontractwyr coed, wedi clirio pob ffordd A a B o goed sydd wedi disgyn. Mae ein ffocws bellach wedi symud i reoli rhwystrau ar ein ffyrdd bach a di-ddosbarth.
Canolfannau galw heibio - Diweddariad
Bydd pob un o'n canolfannau hamdden ar agor heno tan 10.30pm ar gyfer y rhai sydd heb drydan neu heb gyfleustodau eraill oherwydd Storm Darragh.
Bydd Canolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanymddyfri, Llanelli, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr yn aros ar agor tan 10:30pm heno, fel canolfannau galw heibio i breswylwyr.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
Man cynnes gyda diodydd twym ar gael
Cyfleusterau gwefru ar gyfer dyfeisiau trydan
Dŵr twym - gall pobl ddod â'u fflasgiau eu hunain i'w llenwi a mynd â nhw adref
Cyfleusterau cawod ar gael i’w defnyddio
Diweddariad Gwasanaeth
Mae chwech o'n hysgolion ar gau heddiw oherwydd toriad i’r cyflenwad pŵer. Bydd ysgolion yn cyfathrebu'n uniongyrchol â rhieni/gwarcheidwaid.
Mae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Nantycaws dal ar gau heddiw (dydd Llun 9 Rhagfyr) oherwydd y trafferthion achoswyd gan Storm Darragh. Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i ailagor y safle cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Rhoddir gwybod trwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan y prynhawn yma am unrhyw darfu ar y gwasanaeth gwastraff.
Cofiwch fod disgwyl i'n hamgueddfeydd ailagor fel arfer yfory (dydd Mawrth 10 Rhagfyr).
Mae Parc Gwledig Pen-bre ar agor heddiw a bydd y Llwybr Goleuadau Nadolig ar agor heno.
Bydd Mynydd Mawr a Llyn Llech Owain dal ar gau heddiw (dydd Llun 9 Rhagfyr) gan fod llawer o goed wedi cwympo.
Mae ein gwasanaethau eraill i gyd ar agor yn ôl yr arfer.
Diweddariad ffyrdd
Mae canolfannau hamdden Caerfyrddin, Sanclêr a Llanymddyfri ar agor fel canolfannau galw heibio ar gyfer nifer sylweddol o bobl sydd dal heb bŵer.
Mae canolfannau hamdden Caerfyrddin, Sanclêr a Llanymddyfri ar agor fel canolfannau galw heibio ar gyfer nifer sylweddol o bobl sydd dal heb bŵer.
Bydd canolfannau ar agor tan hanner nos heddiw.
Bydd y cymorth yn cynnwys:
Man cynnes gyda diodydd twym ar gael.
Cyfleusterau gwefru ar gyfer dyfeisiau trydan.
Dŵr twym - gall pobl ddod â'u fflasgiau eu hunain i'w llenwi a mynd â nhw adref.
Cyfleusterau cawod ar gael i’w defnyddio
Bydd holl ganolfannau hamdden y Cyngor ar agor eto yfory i roi cymorth i’r rhai sydd heb drydan neu heb gyfleustodau eraill oherwydd Storm Darragh.
Diweddariad ffyrdd
Dyma restr o’r amhariadau presennol ar y ffyrdd oherwydd coed wedi cwympo:
- A4069 Comin Llangadog i grid gwartheg Mynydd Du
- B4556 – Blaenau
- U4061 – Caio, Llanymddyfri
- B4310 Sgwâr Drefach i gyffordd C2066
- A476 - Milo i Ffairfach
- B4297 - Sgwâr y Giât i cyffordd U4395
- B4317 Pontyberem i Ffordd Capel Ifan
- C2111 Rhydcymerau i Banc Melyn
- A48 Pwll i Ffariers
- U2213
- A4069
Diweddariad ffyrdd
Dros nos roedd ein criwiau yn monitro clirio coed o'r rhwydwaith ffyrdd.
Heddiw, rydym yn parhau i ddelio â choed sydd wedi cwympo a materion eraill a achosir gan Storm Darragh.
Aflonyddwch presennol oherwydd coed sydd wedi cwympo:
- B4333 ger Aber Arad, Castell Newydd Emlyn
- U2093 Cwmdwyfran
- C3206 Pentywyn i Marros
- B4309 Bancycapel
- C207 Heol Bolahaul, Cwmffrwd
- C2015 i'r gorllewin o Meidrim
- A484 Cwmdwyfran
- B4312 Treioan isaf i Heol Llanagain
- Cwmdwyfran
- Gorsaf lenwi A484 ger Tanerdy
- Stad Tai Heol y Wawr, Treioan, Caerfyrddin
- B4314 Pentywyn i Dafarn-sbeit, croesffordd Eglwys Cymmyn
- A484 Pentremorgan
- C1297 Pentrecagal
- U2203 - Cwmffrwd i Beaulieu Fawr
- A484 Pentremorgan
- Hen Ffordd Sanclêr, Treioan
- C1295 Felindre – ger Fenr. Melin Wlan / Dyffryn Cottage,
- A484 Cwmffrwd
- Teras Ffwrnes C2122, Tymbl i Bontyberem
- Denham Avenue i Goedydd y Strade
- Coedydd y Stradey, B4308 (ochor Trimasaran)
- A406940/00060 – Pontarllechau i Rhydsaint C2147
- A484 Pembrey i B4308 Pen-y-mynydd
- C2063 Sgwâr Drefach i Garreg Hollt
Pont yr M4 C2132 i gyffordd Cilddewi
Diweddariad Storm Darragh: Mae Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer Gwynt yn parhau tan 6pm heddiw.
Diweddariad Storm Darragh: Mae Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer Gwynt yn parhau tan 6pm heddiw.
Cymerwch ofal ar y ffyrdd a chofiwch fod nifer o waith adfer yn parhau ar draws y sir.
Y flaenoriaeth fydd clirio ffyrdd A a B.
Diweddariadau pellach i ddilyn y bore fory, cadwch yn ddiogel.
Ni fydd unrhyw bostiadau pellach o'r sianel hon heno, bydd diweddariadau pellach yn dilyn yn y bore. Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda.
Diweddariad ffyrdd (3)
Heno, mae ein criwiau'n parhau i ddelio â choed sydd wedi cwympo a materion eraill a achoswyd gan Storm Darragh.
- A484 Pentremorgan
- C1297 Pentrecagal
- U2203 - Cwmffrwd i Beaulieu Fawr
- C1295 Felindre - ger. Melin Wlân / Dyffryn Cottage
- A484 Cwmffrwd
- Heol Hathren Cwmann i Cwmann A485
- Cwm-Twrch Uchaf i Ystradowen
- Tafarn Jem A482 i Esgairwen C2180
- Sgwâr Drefach i Garreg Hollt C2063, Drefach i Cross Hands
- Pont yr M4 cyffordd C2132 i Gilddewi
- Ffordd Herberdeg i Bontiets B4309
- Mynediad i Bum Heol (o Lanelli)
- B4308 Coed y Strade (pen Trimsaran) – ffordd ar gau
- B4308 Coed y Strade (pen Trimsaran) – ffordd ar gau
- B4333 Maudlands i Castell Newydd Emlyn - Hewl ar gau
- B4333 Aber Arad, Castell Newydd Emlyn
- U2093 Cwmdwyfran
- C3206 Pentwyn i Marros
- B4309 Bancycape
- C207 Hwol Bolahaul, Cwmffrwd
- C2015 Meidrim i'r Gorllewin
- Cwmdwyfran
- B4312 Tre Ioan i Heol Llanagain
- A484 Pembrey to B4308 Pen-y-Mynydd
- Llanwrda i Pumsaint
- Rhodfa Denham i Goed y Strade
- A484 Towy Bridge, Carmarthen
- A484 wrth ymyl Gorsaf betrol Tanerdy
- Staf tai Heol y Wawr, Heol Ioan, Caerfyrddin
- B4314 Pentwyn i Taverspite, Croesffordd Eglwys Cymmyn
- Man aros Derwendeg i ardal picnic Cwmcoedifor
- Sgwar Maerdy i Pyllau Cochion C2171
- C2177 Croesffordd i Maerdy B4302
- Ram Inn i Heol Hathren Cwmann
Mae Llesiant Delta yn profi nifer fawr o alwadau ond a fyddech cystal â pharhau i roi gwybod iddynt am faterion brys ar 0300 333 2222 neu drwy eu ffurflen ar-lein.
Fodd bynnag, rhowch wybod i ni am goed sydd wedi cwympo drwy ein ffurflen ar-lein.
Tair amgueddfeydd ar gau yfory, Dydd Sul 8 Rhagfyr
Bydd yr Amgueddfeydd canlynol ar gau yfory, Dydd Sul 8 Rhagfyr :
Parc Howard
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Cartref Dylan Thomas
Diweddariad ffyrdd (2)
Mae ein criwiau'n parhau i ddelio â choed sydd wedi cwympo a materion eraill a achoswyd gan Storm Darragh.
Dyma’r amhariadau presennol oherwydd coed wedi cwympo:
- B4308 Coed y Strade (pen Trimsaran) – ffordd ar gau
- B4308 Coed y Strade (pen Trimsaran ) - Hewl ar gau
- B4333 Aber Arad, Castell Newydd Emlyn
- U2093 Cwmdwyfran
- C3206 Pentwyn i Marros
- B4309 Bancycape
- C207 Hwol Bolahaul, Cwmffrwd
- C2015 Meidrim i'r Gorllewin
- Cwmdwyfran
- B4312 Tre Ioan i Heol Llanagain
- Heol Rhyd Ddu Fach
- Colliers Arms, Saron i Heol Dyffryn, cyffordd Parklands
- A484 Pembrey to B4308 Pen-y-Mynydd
- Llanwrda i Pumsaint
- Mynediad Ysbyty Mynydd Mawr, Tymbl
- C2066 Mansell Arms
- C2122 Furnace Terrace, Y Tymbl Isaf i Bontyberem
- C220115 Llwydcoed Isaf C2208 i Pentwyn, Cross Hands
- Rhodfa Denham i Goed y Strade
- Pontarllechau i Rydsaint C2147 (priffordd o goedwigaeth Penarthur i Three Horse Shoes Gwynfe)
- Nantgaredig B4310 i LHJ C2069 Capel Dewi
- Clochyrie C2077 i Bont Morlais
- Heol Pendderi, Bynea
Mae Llesiant Delta yn profi nifer fawr o alwadau ond a fyddech cystal â pharhau i roi gwybod iddynt am faterion brys ar 0300 333 2222 neu drwy eu ffurflen ar-lein.
Fodd bynnag, rhowch wybod i ni am goed sydd wedi cwympo drwy ein ffurflen ar-lein.
Diweddariad - Canolfannau ailgylchu
Bydd pob canolfan ailgylchu gwastraff cartref (HWRCs) a Chanolfan Eto, Nantycaws ar gau yfory (dydd Sul 8 Rhagfyr) oherwydd y tywydd.
Diweddariad ffyrdd
Mae Llesiant Delta yn profi nifer fawr o alwadau ond a fyddech cystal â pharhau i roi gwybod iddynt am faterion brys ar 0300 333 2222 neu drwy eu ffurflen ar-lein.
Fodd bynnag, rhowch wybod i ni am goed sydd wedi cwympo drwy ein ffurflen ar-lein.
Rhybuddion o lifogydd
Mae rhybuddion llifogydd ar waith
- Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan
- Afon Tywi, eiddo anghysbell rhwng Llandeilo ac Abergwili
- Afon Cothi ar dir isel – Pontargothi a Phontynyswen
Oherwydd amodau newidiol, mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Gwiriwch y risg yn eich ardal. Gallwch gael y diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru, diweddariad bob 15 munud.
Os ydych chi’n pryderu am lifogydd ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.
Diweddariad ffyrdd
Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos i glirio 56 o goed sydd wedi cwympo ac ymdrin â materion a achosir gan Storm Darragh. Maent yn parhau i weithio cyn gynted â phosibl i glirio ffyrdd ac wedi galw am gymorth ychwanegol lle bo angen.
Mae’r ffyrdd canlynol ar gau oherwydd amodau anniogel:
C3236 Llandowror
C2043 Cynwyl i Tevaughan
Heol Bolahaul, Caerfyrddin
Mae Ffordd Gyswllt Cross Hands yn agored i lôn sengl oherwydd coeden fawr sy'n achosi rhwystr. Mae criwiau yn ymwybodol ac yn delio â hyn.
Mae Llesiant Delta yn profi nifer fawr o alwadau ond a fyddech cystal â pharhau i roi gwybod iddynt am faterion brys ar 0300 333 2222 neu drwy eu ffurflen ar-lein.
Fodd bynnag, rhowch wybod i ni am goed sydd wedi cwympo drwy ein ffurflen ar-lein.
Diweddariad Gofal Cartref
Mae ein tim Gofal Cartref yn parhau i ofalu am ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws y sir.
Er hyn, mae rhai defnyddwyr wedi eu heffeithio oherwydd yr amodau heriol yn sgil Storm Darragh. Rydym yn cysylltu gyda pob defnyddiwr gwasanaeth i’w gwneud yn ymwybodol o ddatglygiadau.
Diweddariad gwasanaethau
Mae'r amodau'n parhau'n heriol ar draws y sir oherwydd gwyntoedd cryfion a glaw yn sgil Storm Darragh.
Mae canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, canolfannau ailgylchu a gwasanaethau eraill yn parhau ar gau. Gwiriwch cyn i chi deithio.
Llesiant Delta - Argyfwnh tu allan i oriau
Y tu allan i oriau swyddfa arferol, mae Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth mewn argyfwng ar 0300 333 2222.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer argyfwng ac mae ar gael ar ôl 6pm a hyd at 8.30am ar ddiwrnodau gwaith, ac ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl Banc.
Gallwch roi gwybod hefyd am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Gan fod disgwyl glaw trwm a gwyntoedd cryfion wrth i Storm Darragh daro, mae’r holl drafnidiaeth gyhoeddus wedi'i chanslo o heno tan tua 2pm yfory, dydd Sadwrn 7 Rhagfyr. Cadarnhewch cyn teithio.
Byddwn hefyd yn diweddaru ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan.