Pleser Gwirfoddoli
485 diwrnod yn ôl
Eleni mae 40 mlynedd ers cychwyn Diwrnod Rhyngwladol y Gwirfoddolwyr, 5 Rhagfyr, ac mae gan Sir Gaerfyrddin fwy i'w ddathlu na'r rhan fwyaf.
Mae manteision niferus i wirfoddoli; gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd, rhannu gwybodaeth, a mwynhau'r llu o fanteision corfforol, meddyliol ac emosiynol y gall ei gynnig. Gall gwirfoddoli hefyd wella sgiliau ar gyfer cyflogaeth, gan arwain yn aml at ddatblygiad gyrfa llwyddiannus.
Gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU bydd llawer o gyfleoedd newydd ac anarferol yn cael eu creu yn y sir.
Beth am roi cynnig ar un?
- Angerdd am ein planed?
Canolfan hinsawdd ac amgylchedd newydd yw Caerfyrddin Gyda'n Gilydd ac mae'n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi eu sesiynau caffi, gweithdai, digwyddiadau a dangosiadau ffilm. I gael rhagor o wybodaeth: https://carmarthen-together.vercel.app/cy - Arwr? Ymunwch ag ymdrechion Ambiwlans Sant Ioan Cymru i achub bywydau a gwella iechyd a llesiant cymunedau Cymru. Os hoffech wybod mwy: www.sjacymru.org.uk/en/page/volunteer
- Ymgysylltu…Mae sefydliad John Burns wedi datblygu prosiect Engage gan gynnig cyfle i edrych ar yr amrywiaeth o rolau gwirfoddoli newydd maent wedi'u creu. Os hoffech wybod mwy: johnburnsfoundation.org
- Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Caerfyrddin yn darparu arweiniad arbenigol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ond a hoffai gael cymorth i gychwyn arni. Maent hefyd yn cefnogi sefydliadau'r trydydd sector i reoli a rhoi cyfarwyddyd i wirfoddolwyr. Rhagor o fanylion: www.cavs.org.uk
- Hoffi Chwaraeon? Mae Chwaraeon a Hamdden Actif wedi lansio llwyfan gwirfoddoli newydd llawn cyfleoedd chwaraeon. Ewch i: https://volunteer.actif.wales.
- Am fynd ymhellach? Trwy Gwirfoddoli Cymru bydd cyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru ar gael ichi. Ewch i: https://volunteering-wales.net
Mae'r Flwyddyn Newydd yn agosáu'n gyflym, felly mae'n gyfle gwych i ddechrau rhywbeth newydd a dod yn rhan o gymuned fwy. Mae gan ein hystod eang o brosiectau gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol i roi cynnig arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd ar Ddiwrnod y Gwirfoddolwyr? Diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am greu cymaint o gyfleoedd i drigolion Sir Gaerfyrddin, boed hynny at ddibenion hamdden neu i hybu ceisiadau am swyddi yn y dyfodol. Byddwn i'n annog unrhyw un i fwrw ati.
Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch wirfoddoli.
Gallwch fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod wythnos Gwirfoddolwyr, ac mae'r cynllun yn darparu hyfforddiant i bobl ar gynnig twristiaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae cofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein yn rhad ac am ddim ac mae'n agored i bawb. Mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw'r sir, dysgu mwy am ein hanes a'n straeon diwylliannol sy'n ychwanegu ystyr ac arwyddocâd i dirweddau'r sir, gwella amser a dreulir yn y sir, a chynyddu gwariant eilaidd.
Mae gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau yn cael eu hanfon at bawb sy'n cwblhau'r lefelau, ac mae pob llysgennad llwyddiannus hefyd yn cael gwahoddiad i seremoni gwobrwyo swyddogol.
Yn 2025 bydd cyfleoedd hefyd i Lysgenhadon fynychu teithiau dysgu ar draws y sir. Y bwriad yw ategu'r hyn mae'r Llysgenhadon Twristiaeth wedi'i ddysgu ar-lein. Mae hefyd yn gyfle i'r Llysgenhadon ddod at ei gilydd! Cofrestrwch nawr Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr
Fel rhan o Ddiwrnod y Gwirfoddolwyr, mae Ceir Cefn Gwlad yn amlygu cyfraniadau hynod bwysig ei yrwyr gwirfoddol a threfnwyr ardal, sy'n helpu trigolion Sir Gaerfyrddin i wneud teithiau lleol hanfodol. Mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaeth hanfodol drwy drefnu a chynnig lifftiau i'r rhai fyddai fel arall yn cael trafferth cael cludiant, gan sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd apwyntiadau, gwasanaethau hanfodol neu weithgareddau cymdeithasol. Mae Ceir Cefn Gwlad yn croesawu gwirfoddolwyr i ymuno â'i fenter gymunedol a gwneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau trigolion lleol.
I ddysgu rhagor am wirfoddoli, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ar 07585 997091 neu cofrestrwch drwy fynd i www.royalvoluntaryservice.org.uk”
