Lansio gwelliannau i Wasanaethau Bws Tref Llanelli ym mis Ionawr 2025

3 diwrnod yn ôl

Bydd canol tref Llanelli yn elwa ar welliannau i’w wasanaethau bysiau, drwy wella llwybrau L1 a L2 a fydd yn dechrau ar 6 Ionawr 2025. Bydd y newidiadau hyn yn cynnig opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus fwy cyfleus a hygyrch i breswylwyr ac ymwelwyr, gan gysylltu lleoliadau allweddol ledled y dref.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth L1 yn rhedeg pedair gwaith y dydd rhwng Canol y Dref, Parc Pemberton, Parc Trostre, Penyfan, Morfa,  Seaside, ac arhosfan bysiau ger yr orsaf reilffordd yn Astoria. Mae Gwasanaeth L2 hefyd yn gweithredu pedair gwaith y dydd, gan gysylltu Dyffryn y Swistir, Ysbyty Tywysog Philip, Felinfoel, a Chanol y Dref. Mae'r gwasanaeth ar waith ar hyn o bryd rhwng 08:15 a 15:25.

Drwy ddilyn yr amserlen newydd, bydd bysiau'n rhedeg yn barhaus rhwng 08:20 a 17:57, gan gynnig gwasanaeth bob 90 munud. Bydd y gwelliannau hefyd yn cyfuno llwybrau presennol L1 a L2, gan ganiatáu i deithwyr deithio'n ddi-dor rhwng lleoliadau heb angen newid bysiau yng Ngorsaf Fysiau Llanelli.

Un o nodweddion allweddol y gwelliannau i’r gwasanaeth yw y bydd yn cynnwys datblygiad Pentre Awel sydd ar ddod ac sydd wedi bod yn allweddol wrth ariannu'r newidiadau. Pan fydd yn weithredol, bydd y llwybr newydd yn cynnwys arhosfan bysiau pwrpasol ym Mhentre Awel, sy’n adlewyrchu rôl Pentre Awel fel catalydd pwysig ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn y dref.

Nod y newidiadau i'r gwasanaethau bws yw darparu gwell cysylltedd rhwng canolfannau preswyl, masnachol a gofal iechyd yn Llanelli wrth gefnogi teithio cynaliadwy. Drwy ymestyn oriau gweithredu a gwella effeithlonrwydd llwybrau, bydd y gwelliannau i’r gwasanaethau’n sicrhau bod preswylwyr yn gallu cyrchu cyrchfannau allweddol yn haws a bod y gwasanaethau’n fwy dibynadwy.

Wrth groesawu'r gwelliannau dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae’r gwelliannau i wasanaethau bws Tref Llanelli yn gam gwych ymlaen o ran gwella trafnidiaeth gyhoeddus i'n trigolion a'n hymwelwyr. Drwy ymestyn oriau gweithredu a chysylltu lleoliadau allweddol, sy’n cynnwys datblygiad Pentre Awel, rydym yn ei gwneud yn haws i bobl deithio'n gynaliadwy a chael mynediad at wasanaethau hanfodol. Mae hon yn enghraifft glir o sut rydym yn buddsoddi yn nyfodol Llanelli ac yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan ganolog wrth gysylltu ein cymunedau.”