Hwyl yr Ŵyl yn Sir Gaerfyrddin; buddsoddi bron i £1 miliwn mewn cyfleusterau cymunedol

25 diwrnod yn ôl

Wrth iddi nosi'n gynt dros y gaeaf, mae'n bwysicach nag erioed dod â phobl at ei gilydd a rhannu hwyl yr ŵyl. Mae rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid i sawl prosiect i ddatblygu eu cyfleusterau cymunedol lleol, yn barod ar gyfer cynnal eu digwyddiadau y Nadolig hwn.

Mae'r gronfa yn buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n amrywio o ganolfannau cymunedol i neuaddau marchnad. Mae Canolfan Gymunedol newydd sbon yn yr Hendy ac mae gwaith adnewyddu mawr wedi cael ei wneud yn Neuadd y Farchnad Llanboidy gan wneud y lleoliad yn gwbl hygyrch. Mae prosiectau llai wedi cael offer newydd i'w galluogi i gynnal digwyddiadau Nadolig.

Mae Cyngor Cymuned Llanedi wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu cyfleuster cymunedol anhygoel newydd, sef Canolfan Gwili a fydd yn gwasanaethu pobl Tŷ-croes, Llanedi, yr Hendy a Fforest. Mae'r ganolfan gymunedol newydd yn cynnwys caffi newydd, a neuadd weithgareddau helaeth, gyda goleuadau a system sain uwch, sy'n ei gwneud yn lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o ffeiriau Nadolig i gyngherddau.

I gael rhagor o wybodaeth:  https://www.llanedi-cc.gov.wales/cy/

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

Mae'n wych gweld bod Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn galluogi cymunedau i adnewyddu cyfleusterau ledled y sir mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Mae'n bwysig bod ein hardal yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol drwy gydol cyfnod yr ŵyl fel bod unigolion yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned ehangach.

Mae nifer o ddigwyddiadau Nadolig a marchnadoedd crefftau ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr. I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi adeg y Nadolig, ewch i Darganfod Sir Gâr

I ledaenu'r llawenydd eleni a chymryd rhan yn eich digwyddiadau cymunedol lleol, beth am edrych ar rai o'r prosiectau eraill a gefnogir gan y gronfa isod?

  1. Mae Canolfan Ieuenctid a Chymuned Llanymddyfri wedi cael ei hadnewyddu, ac mae offer newydd a gwaith uwchraddio cyffredinol yn golygu ei bod yn barod i groesawu mwy o ymwelwyr. Beth am alw heibio i weld beth mae'n ei gynnig y gaeaf hwn. facebook.com/groups/LlandoveryyouthandCommunityCentre
  2. Mae Neuadd Les Glowyr Pont-iets wedi cael ei thrawsnewid i greu man glân a chroesawgar, ac mae offer newydd yn golygu y bydd digwyddiadau yn y neuadd yn haws i'w cynnal ac yn fwy hygyrch i bawb. Gallwch weld beth sydd ymlaen yma: pontyates.org.uk/whats-on
  3. Mae Neuadd y Farchnad yn Llanboidy yn lle cymunedol hanesyddol bwysig, ac mae wedi cael gwaith adnewyddu mawr gan sicrhau bod y cyfleuster yn hygyrch i bawb. Ei digwyddiad mawr cyntaf yw ei Ffair Nadolig flynyddol. Rhagor o fanylion: llanboidymarkethall.co.uk
  4. Mae Capel Bethlehem Newydd ym Mhwll-trap wedi cael ei uwchraddio ac mae celfi newydd, cegin newydd ac offer yn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar ar gyfer cynnal gwasanaethau a digwyddiadau Nadolig. https://www.facebook.com/profile.php?id=100080455985108
  5. Mae Canolfan Carwyn yng Nghwm Gwendraeth wedi adfywio hen neuadd chwaraeon yr ysgol ac yn ogystal â'r amrywiol sesiynau chwaraeon sydd ar gael, maen nhw'n cynnal digwyddiadau a pharti Nadolig i blant. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: canolfancarwyn.co.uk
  6. Bydd Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli yn cynnal marchnad Nadoligaidd yn arddangos amrywiaeth o grefftau ac anrhegion lleol a Ffair Nadolig sy'n agored i bawb.

Rhagor o fanylion: llanellirailwaygoodsshedtrust.org

  1. Mae Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr wedi cael gwelliannau i'w chaffi a'i cherbydau, gan wneud ei phrofiad ymweld â Siôn Corn yn un hanfodol yn ystod yr ŵyl hon.
    Gallwch gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocynnau yma: llanellirailway.co.uk
  2. Mae profiad Rheilffordd Gwili wedi cael platfform newydd yn Abergwili, sy'n golygu bod mynediad i'r trenau bellach yn haws nag erioed. Yn ystod cyfnod y Nadolig bydd yn cynnal teithiau rheolaidd gyda Siôn Corn! I gael rhagor o wybodaeth ewch i gwili-railway.co.uk/train-rides/santa-special