Gwaredu Llystyfiant yng Nghastell Caerfyrddin

1 diwrnod yn ôl

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng Ionawr 2025 a Mawrth 2025.

Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin roi gwybod i'r cyhoedd am waith sydd ar y gweill i gael gwared ar lystyfiant yng Nghastell Caerfyrddin. Disgwylir i'r gwaith hanfodol hwn ddechrau ym mis Ionawr 2025 a pharhau tan fis Mawrth 2025.

Nod y prosiect yw cadw a gwarchod strwythur hanesyddol Castell Caerfyrddin drwy fynd i'r afael â llystyfiant sydd wedi gordyfu a allai beryglu cyfanrwydd y safle. Gan weithio gyda chontractwr sydd â phrofiad o waith cynnal a chadw ar dirnodau hanesyddol, bydd mesurau gofalus yn eu lle i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl, ac yn cael ei wneud gyda sensitifrwydd gan ystyried arwyddocâd hanesyddol y castell a'r cyffiniau.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

Rydym wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl fusnesau a thrigolion cyfagos drwy gydol y broses. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu yn ôl yr angen i sicrhau tryloywder ac i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon posib.

Diolchwn i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i gynnal a diogelu'r tirnod pwysig hwn.

Ariennir y gwaith hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm yn trefi@sirgar.gov.uk.