Dweud eich dweud am gynllun y Cyngor i ddod o hyd i arbedion cyllideb
2 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn dilyn cynnydd cyllid dros dro o 4.1% gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, mae dal angen i Gyngor Sir Caerfyrddin bontio diffyg amcangyfrifedig o £18 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Mae'r arolwg ar-lein, sydd wedi mynd yn fyw heddiw (19 Rhagfyr 2024), yn rhoi cyfle i breswylwyr fynegi eu barn ar, er enghraifft, cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysgol, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa. Bydd y rhestr fanwl yn cael ei thrafod yn llawn yng nghyfarfod nesaf y Cabinet, a gynhelir ddydd Llun, 13 Ionawr 2025. Gellir gweld y cyfarfod hwn trwy ddarllediad gwe ar ein gwefan.
Mae penderfyniadau anodd iawn o flaen Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym bellach yn gwahodd preswylwyr, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddweud eu dweud ar gynigion polisi newydd i arbed arian, o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. Fel Awdurdod, rydym wedi gweithio'n galed i gyfyngu ar nifer y newidiadau polisi sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghori eleni i leihau'r effaith ar ein preswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn gorfod gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd iawn. Mae hyn yn bennaf oherwydd ffactorau y tu hwnt i'w rheolaeth, megis chwyddiant, a chynnydd sylweddol mewn yswiriant gwladol, setliadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a swm y cynnydd blynyddol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cyngor yn cael 75% o'i incwm i ariannu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd fel gofal cymdeithasol ac addysg mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn cael grant bloc blynyddol gan Lywodraeth y DU. Dim ond 16% o weddill incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor.
Er gwaethaf cynnydd cyllid dros dro o 4.1% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 bu cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau'r cyngor, yn ogystal â'r chwyddiant a'r pwysau o ran cyflog. O ganlyniad, rhaid gwneud arbedion effeithlonrwydd, ynghyd â chynnydd yn y Dreth Gyngor i bennu cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol.
Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn ymgysylltu â ni ynghylch y set o gynigion rydym wedi'u cyhoeddi heddiw. Rwy'n llwyr werthfawrogi y gallai'r rhain fod yn amhoblogaidd ac felly mae ymateb i'r arolwg yn bwysig.”
Mae amseriad ein hymgynghoriad yn unol â chyllideb Llywodraeth y DU a chyllideb dros dro Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion gweithredol, gwerth hyd at tua £7.5 miliwn pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2025.
Gall pobl rannu eu barn ar-lein neu drwy ymweld â hwb gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 26 Ionawr 2025.