Digwyddiad Carreg Filltir yn Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin

5 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddigwyddiad cyhoeddus yn Uned 10, Rhodfa'r Santes Catrin ar 12 Rhagfyr 2024 am 15:30-17:00.

Mae hwn yn gyfle i aelodau'r cyhoedd ddod i siarad â swyddogion prosiect, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau partner, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Chwaraeon a Hamdden Actif a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, am y datblygiad.

Pwrpas y digwyddiad yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r weledigaeth, y cysyniad a'r cyfleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i'r cyhoedd ddod i ddysgu am yr hyn y mae'r Hwb Iechyd a Llesiant yn ei olygu iddyn nhw. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol i'r datblygiad hwn, gan sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i fod wrth wraidd y prosiect.

Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad a'r amser hwn, cadwch lygad allan am sesiynau yn y dyfodol yn y flwyddyn newydd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin, ewch i'r wefan.

Ariennir y prosiect hwn mewn partneriaeth â £7miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Cyllid Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, a hefyd cyllid o £18m gan Lywodraeth y DU.