Cyngor yn datgelu cynlluniau ar gyfer Cartref Gofal Carbon Sero Net Cofrestriad Deuol Cyntaf Cymru yng Nghwmgwili
211 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi ei gynlluniau trawsnewidiol i ailddatblygu hen gartref gofal 32 gwely yng Nghwmgwili, yn gyfleuster newydd 60 gwely o'r radd flaenaf, wedi'i gofrestru i ddarparu gofal nyrsio a gofal preswyl.
Yn amodol ar lwyddo i gael cyllid rhannol drwy Raglen Cyllid Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, y cyfleuster newydd hwn fydd y cartref gofal cofrestriad deuol cyntaf yng Nghymru, gan osod safon newydd ar gyfer gofal integredig yn y rhanbarth.
Yn sgil caffael hen gartref preswyl Plas Y Bryn yn 2022, bydd cynigion hefyd yn gweld yr adeilad newydd yn cael ei ddylunio a'i weithredu fel cyfleuster Carbon Sero Net, gan atgyfnerthu ymrwymiad hirdymor y Cyngor i ddatblygu cynaliadwy a chefnogi ei weledigaeth i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.
Wrth siarad am gynigion, dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Yn amodol ar lwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd ailddatblygu Plas Y Bryn yn brosiect gwirioneddol drawsnewidiol, gan ddod â datrysiad gofal modern, hyblyg a chynaliadwy i Sir Gaerfyrddin."
Bydd yr adeilad newydd uchelgeisiol hwn yn dyblu capasiti'r cartref gofal gwreiddiol o 32 i 60 gwely, gan helpu i bontio'r bwlch presennol o ran gofal preswyl a nyrsio yn y rhanbarth. Mae ehangu'r cartref gofal yn gam strategol i gefnogi ardal lle nad oes unrhyw gartrefi gofal mewnol yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r galw lleol a'r angen am gyfleuster sy'n gallu gwasanaethu preswylwyr â gofynion gofal mwy cymhleth.
Ychwanegodd y Cynghorydd Tremlett,
Mae'r datblygiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion cynyddol ein cymuned nawr ac yn y dyfodol. Bydd hefyd yn gosod Sir Gaerfyrddin fel arweinydd mewn technoleg arloesol, darpariaeth gofal cynaliadwy ac yn cynnig cymorth hanfodol i ateb y galw lleol am wasanaethau preswyl a nyrsio hanfodol."
Ochr yn ochr ag ehangu opsiynau gofal, mae'r datblygiad hwn yn addo buddion cymunedol ehangach, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth lleol a chymorth ar gyfer datblygu sgiliau, gan gryfhau economi Sir Gaerfyrddin yn y pen draw.
Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer y datblygiadau arfaethedig yn cael ei ryddhau a'i gyhoeddi ym mis Rhagfyr, gan roi cyfle i drigolion adolygu cynigion a rhoi eu hadborth gwerthfawr. Os bydd cyllid yn cael ei gymeradwyo, rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Hydref 2025, gyda disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2027 a disgwylir i'r cyfleuster fod yn gwbl weithredol yng Ngwanwyn/Haf 2027.