Cau maes parcio a llwybr i Barc y Mileniwm, Llanelli dros dro

24 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal archwiliad arbenigol ar safle ger Heol Yspitty, y Bynea, Llanelli ar ôl i hen ordnans gael ei ddarganfod yno ar 28 a 29 Tachwedd 2024. Cafodd yr ordnans a ddarganfuwyd yr wythnos diwethaf ei waredu'n ddiogel ar y pryd gan wasanaeth Tîm Gwaredu Ordnans Ffrwydrol arbenigol.
Mae'r maes parcio a'r llwybr i Barc y Mileniwm wedi cael eu cau dros dro i'r cyhoedd wrth i'r Cyngor Sir gynnal ei archwiliadau ar y safle a dim ond ar ôl ymdrin ag unrhyw risg barhaus bosibl y bydd yn ailagor. 
Er bod y risg i'r cyhoedd yn isel, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i bobl gadw draw o'r ardal tra ei bod ar gau i'r cyhoedd."

Ainsley Williams, Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith i Gyngor Sir Gâr