Cartrefi newydd i gael eu datblygu yn Neuadd y Dref, Rhydaman
4 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu wyth cartref newydd a fforddiadwy ychwanegol, y mae mawr angen amdanynt, yn Rhydaman.
Mae cynllunio ar y gweill i benderfynu a yw cynllun i ddatblygu wyth cartref newydd sbon yn Neuadd y Dref, Rhydaman yn ymarferol neu beidio.
Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, bydd y cartrefi modern yn cael eu hadeiladu i safon uchel o ran defnyddio ynni’n effeithlon a bydd adeilad Neuadd y Dref, Rhydaman yn cael ei drawsnewid yn gymysgedd o gartrefi 1, 2, 3 a 4 ystafell wely, gan sicrhau bod y datblygiad yn cadw cymeriad, nodweddion a golwg Neuadd y Dref, sy'n flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor Sir.
Mae angen adnewyddu adeilad Neuadd y Dref, Rhydaman yn sylweddol ac nid yw'n addas i'w ddiben mwyach. Dim ond Cyngor Tref Rhydaman sy'n defnyddio'r adeilad ac mae'r cynigion hyn yn cynnwys symud swyddfa'r Cyngor Tref i adeilad mwy addas yng Nghanolfan Aman, Stryd Marged, sy'n agos iawn i'w leoliad presennol. Mae aelodau'r Cyngor Tref wedi bod yn rhan o drafodaethau parhaus gyda'r Cyngor Sir ynghylch y cynigion.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
Mae galw sylweddol am dai yn Rhydaman, yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru. Mae datblygu pob rhan o Neuadd y Dref, Rhydaman i ddarparu wyth cartref newydd modern sy'n defnyddio ynni’n effeithlon, i bobl leol sydd angen tŷ, yn gyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio'n llawn arno.
Bydd y cynlluniau amodol hyn yn cadw cymeriad, nodweddion a golwg adeilad presennol Neuadd y Dref yn ogystal â chefnogi'r gwaith o adfywio Rhydaman – oherwydd bod Neuadd y Dref yn agos at ganol y dref a'r cyfleusterau sydd yno.
Rydym hefyd yn falch o gynnig opsiynau eraill gwell ar gyfer swyddfeydd y Cyngor Tref a chadw'r adeilad dan reolaeth y Cyngor Sir a'i atal rhag dadfeilio.
Bydd y datblygiad arfaethedig hwn yn gwneud y defnydd gorau o adeilad allweddol yn Rhydaman a bydd yn sicrhau ei fod yn cael ei adnewyddu i safon uchel gan ddiogelu ei ddyfodol am flynyddoedd i ddod."