Amy: Tyfu lan mewn Teulu Maeth

372 diwrnod yn ôl

I Amy, mae tyfu lan fel plentyn gofalwr maeth wedi bod yn brofiad newidiodd ei bywyd. Wyth mlynedd yn ôl, croesawodd ei theulu fachgen bach ag anghenion dysgu cymhleth i'w cartref, ac o'r foment honno ymlaen daeth maethu'n rhan o'i bywyd dyddiol.

Mae ffrindiau'n aml yn gofyn a ydw i'n gweld pethau'n anodd ac a ydy hi'n galed rhannu fy rhieni gyda fe, ond alla i ddim dychmygu peidio bod yn rhan o deulu maeth. Ar ôl wyth mlynedd, mae e'n frawd arall i fi. Os rhywbeth, fe ddaeth â'n teulu at ei gilydd a'n gwneud ni'n agosach.

Mae Amy a'i theulu wedi croesawu'r heriau a'r llawenydd sy'n perthyn i faethu, ac mae'r cwlwm rhyngddi hi a'i brawd maeth bellach yn un na ellir ei dorri. Mae'r tŷ'n fwy tawel pan nad yw yno, ac maent methu aros tan ei fod yn dod nôl.

Un o'r pethau sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i Amy yw gweld yr effaith gadarnhaol mae cefnogaeth ei theulu yn ei chael nid yn unig ar ei brawd maeth, ond ar ei theulu geni yn ei gyfanrwydd.

Rydym ni'n cadw mewn cysylltiad â'i deulu, ac mae ganddo gyswllt rheolaidd â nhw, sydd mor braf, ac mae'n rhoi boddhad mawr gwybod eich bod chi'n helpu a chefnogi teulu cyfan ac nid un person yn unig.

Mae brawd maeth Amy, â'i bersonoliaeth lawen a'i wên ddireidus, wedi bywiogi eu bywydau mewn ffyrdd dirifedi.

Mae e mor hapus a direidus, ac fe allai roi gwên ar wyneb unrhyw un, dim ots pa mor anodd eich diwrnod yn y gwaith, yn yr ysgol, neu hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang. Mae'n rhoi rheswm i ni fynd allan a chadw'n brysur trwy wneud gweithgareddau hwyliog.

Mae maethu wedi gwneud sut argraff ar Amy, mae hi eisoes yn ystyried gwneud hynny ei hun yn y dyfodol.

Pe bawn i'n cael y cyfle wedi symud allan, bydden i'n bendant yn meddwl am fynd ati i faethu.

Rhoddodd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, ganmoliaeth i deuluoedd fel un Amy sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth.

Mae tyfu i fyny ar aelwyd faethu yn rhoi safbwynt unigryw i blant a phobl ifanc o ran tosturi a gwytnwch. Mae stori Amy yn fodd grymus o atgoffa pawb sut y gall maethu gryfhau teuluoedd a dod â buddion anhygoel i'r rhai sy'n croesawu plant maeth i'w cartrefi. Rydym yn hynod ddiolchgar am ymroddiad ein teuluoedd maeth, ac rydym yn dathlu cyfraniadau plant gofalwyr maeth, sy'n chwarae rhan sylweddol yn y daith hon.

Mae stori Amy yn ddathliad o'r rôl unigryw sydd gan blant gofalwyr maeth, a sut gall maethu gryfhau teuluoedd, creu perthnasoedd gydol oes, a dod â llawenydd di-ben-draw.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda'ch awdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin, neu i wneud ymholiad, ewch i wefan Maethu Cymru Sir Gâr.