Ymchwil Newydd yn Pwysleisio'r Arbenigedd a'r Cymorth a Ddarperir gan Weithwyr Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin i Annog Mwy o Bobl i Faethu

47 diwrnod yn ôl

Gan fod dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae'r angen am fwy o ofalwyr maeth yn dod yn fwyfwy enbyd. Yn Sir Gaerfyrddin yn unig, mae 148 o blant mewn gofal maeth, ac mae angen llawer mwy o ofalwyr maeth o hyd i ateb y galw cynyddol.

Yn gynharach eleni, lansiwyd ymgyrch gan y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, er mwyn recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026. Fel rhan o'r ymdrech hon, mae Maethu Cymru Sir Gâr wedi ymuno â'r ymgyrch 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth' i rannu profiadau realistig gan y gymuned faethu a mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin sy'n atal darpar ofalwyr rhag gwneud ymholiadau.

Mae rhai rhwystrau cyffredin yn cynnwys diffyg hyder, camdybiaethau ynghylch meini prawf, a'r dybiaeth nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn tynnu sylw at rôl hanfodol gweithwyr cymdeithasol o fewn gofal maeth a'r 'swigen gefnogaeth' o amgylch gofalwyr maeth. Nod y cam yw darparu'r canlynol i ddarpar ofalwyr maeth:

  1. Gwybodaeth glir am rôl y gweithwyr cymdeithasol a'r rhwydwaith cymorth sydd ar gael i ofalwyr maeth.
  2. Hyder bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi plant a phobl ifanc, a gofalwyr maeth.
  3. Cymhelliant i ddechrau ar eu taith faethu gyda'u hawdurdod lleol.

Mae arolwg cyhoeddus diweddar gan YouGov yn tynnu sylw at y canfyddiadau heriol ynghylch gwaith cymdeithasol, gyda dim ond 44% o'r ymatebwyr yn dweud bod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu'n dda. Roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o'r oedolion a holwyd yn teimlo bod gweithwyr cymdeithasol "yn aml yn cael pethau'n anghywir", a dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol eu hunain sy'n credu bod parch mawr i'w proffesiwn.

Cefnogir yr ymgyrch 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth' gan arolwg newydd, a gynhaliwyd i ddeall canfyddiadau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Casglodd yr arolwg ymatebion gan 309 o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth a gofalwyr maeth, gyda'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Ymunodd 78% o weithwyr cymdeithasol â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd.
  • Roedd 18% o ofalwyr maeth yn priodoli canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol i sylw yn y newyddion.
  • I ddechrau, roedd 29% o ofalwyr maeth yn credu y byddai gweithwyr cymdeithasol yn "bobl â llwythi achos trwm a llawer o waith papur.”
  • Mae 27% o weithwyr cymdeithasol yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol.

Mae Kevin, sy'n weithiwr cymdeithasol goruchwyliol i Gyngor Sir Caerfyrddin, wedi treulio 5 mlynedd yn y swydd. Dywedodd Kevin:

Roeddwn i eisiau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol bach yn y gymuned rwy'n byw ynddi.

Yn yr ymchwil, pwysleisiodd gofalwyr maeth bwysigrwydd perthnasoedd agos, hirhoedlog wrth helpu pobl ifanc i oresgyn heriau. Fe wnaethon nhw chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol hefyd a chanmol y gefnogaeth maen nhw'n ei derbyn.

Rhannodd un gofalwr maeth o Sir Gaerfyrddin eu profiad:

Daeth ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol i weld ein plant yn eu sioe ysgol ddydd Sadwrn. Roedd hyn yn golygu llawer i'n plant, gan nad oedd ganddyn nhw lawer o bobl yno i'w gwylio. Diolch i chi am eich holl gefnogaeth. Allwn ni ddim gwneud hyn hebddoch.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

Mae maethu yn un o'r rolau pwysicaf yn ein cymuned, sy'n rhoi boddhad mawr. Mae ein gofalwyr maeth yn gweithio gyda'n gweithwyr cymdeithasol ymroddedig i greu amgylcheddau diogel, maethlon lle gall plant ffynnu. Rydym yn hynod falch o'r gefnogaeth gadarn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei darparu i'n gofalwyr maeth, ac rydym am sicrhau bod unrhyw un sy'n ystyried maethu yn gwybod na fyddant ar eu pennau eu hunain yn y daith hon. Gyda'r gefnogaeth gywir ar waith, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd a dyfodol plentyn.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i wefan Maethu Cymru Sir Gâr.