Y Gwasanaethau Hamdden yn Cael Llwyddiant yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Gâr
6 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi bod ei Wasanaethau Hamdden wedi ennill gwobrau pwysig a llu o ganmoliaeth yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Gâr, a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd yng Ngwesty'r Plough yn Rhos-maen.
Cafodd CofGâr, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau'r Cyngor Sir, y wobr am yr Atyniad Gorau am ei Amgueddfa Cyflymder enwog ym Mhentywyn, sef safle sy'n dathlu hanes recordiau cyflymder ar dir ar y traeth enwog ac sy'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Mae'r amgueddfa hwyliog ac ymarferol hon yn fodel o ddylunio cynaliadwy sy'n cynnal arddangosion arbennig ochr yn ochr ag arddangosfeydd rhyngweithiol. Mae'r lle pwrpasol ar gyfer derbyniadau wedi croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau eleni, o gyfarfodydd corfforaethol a gweithgareddau i blant i seremoni briodas hardd – a hynny gan gynnig golygfeydd ysblennydd o draeth saith milltir Pentywyn.
Mae Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi ennill gwobr am Barc Gwledig Pen-bre, cyrchfan boblogaidd sy'n adnabyddus am ei thirweddau hardd a'i hamwynderau sy'n addas i deuluoedd. Cafodd y parc y wobr am y Maes Gwersylla, Carafanio a Glampio Gorau, yn ogystal â chanmoliaeth yn y categorïau Y Digwyddiad Gorau (Llwybr Goleuadau'r Nadolig) a'r Atyniad Gorau. Yn ogystal, cafodd cyfleuster newydd y gwasanaethau, Caban ym Mhentywyn, sef bwyty a llety ag 14 ystafell wely, ganmoliaeth uchel yn y categori Y Gwely Brecwast Gorau. Mae'r gwobrau hyn yn tynnu sylw at yr holl bethau amrywiol ac o ansawdd uchel sydd gan y gwasanaeth i'w cynnig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, at y llwyddiant:
Mae gan dwristiaeth rôl hanfodol o ran economi a chymunedau Sir Gâr. Mae'r gwobrau hyn yn tynnu sylw at ymroddiad a gwaith caled ein tîm yn y Gwasanaethau Hamdden, y mae eu hymdrechion yn sicrhau bod ein hatyniadau'n dal i fod yn gyrchfannau o'r safon uchaf. Rydym yn falch o'r llwyddiannau hyn a'r effaith gadarnhaol y mae twristiaeth yn ei chael ar ein sir.
Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu profiadau hamdden a diwylliannol arbennig i breswylwyr ac i ymwelwyr fel ei gilydd, a hynny am 12 mis y flwyddyn.