Wythnos Hinsawdd Cymru 2024: Ieuenctid yn Arwain Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn Ysgolion Sir Gâr
179 diwrnod yn ôl
Wrth i Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 ddod i ben, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu ymdrechion myfyrwyr lleol a gyfrannodd at ymwybyddiaeth a gweithredu ar yr hinsawdd drwy gydol yr wythnos. Bu'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, mewn digwyddiadau mewn ysgolion ledled y sir, gan amlygu rôl bwysig pobl ifanc wrth greu dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Dechreuodd yr wythnos gyda Rhaglen Good Life Schools yn Ysgol Maes y Gwendraeth, lle bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon am newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Roedd criw ffilmio o'r BBC yno i ddogfennu'r digwyddiad, gyda sylwadau'r myfyrwyr i ymddangos ar 'Newyddion Ni' ar S4C. Roedd y rhaglen yn dangos ymroddiad ieuenctid Sir Gâr, sy'n gweithio i gynnwys arferion sy'n ystyriol o'r hinsawdd yn eu cymunedau.
Ddydd Mercher, cyflwynodd cynrychiolwyr o ysgolion lleol eu Maniffesto Hinsawdd a Natur (2024-26) i'r Cyngor llawn, gan rannu syniadau ar gyfer Sir Gaerfyrddin fwy cynaliadwy. Dangosodd eu cynigion, a oedd yn amrywio o ehangu mannau gwyrdd i wella ymdrechion i leihau gwastraff, bwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol a chymunedau.
Ddydd Iau, arweiniodd disgyblion Ysgol Gymraeg Dewi Sant drafodaeth gynaliadwyedd gyda'r Cynghorydd Vaughan Owen a chynnig taith o amgylch eu hardal dysgu awyr agored, sy'n cynnwys parthau tyfu cynhyrchiol sy'n integreiddio gofal amgylcheddol â dysgu bob dydd. Bu'r myfyrwyr yn rhannu syniadau ar gyfer ymestyn ymdrechion cynaliadwyedd ar draws ysgolion ac yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r Cynghorydd Vaughan Owen, gan danlinellu gwerth addysg amgylcheddol ymarferol.
Wrth i Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 ddod i'w therfyn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ag ysgolion, sefydliadau lleol a chymunedau er mwyn ysgogi gweithredu ar newid hinsawdd, a hynny gydag arweiniad ac angerdd pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn ysbrydoliaeth.
Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos, dywedodd y Cynghorydd Vaughan Owen:
Mae'r hyn welais gan ein pobl ifanc yr wythnos hon wedi bod yn ysgogiad. Mae eu syniadau a'u gweithredoedd yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd. Gyda'r genhedlaeth hon ar flaen y gad, rwy'n optimistaidd ynghylch ein taith tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.”