Siopau Sionc Eto yn dod ag Anrhegion Nadolig Fforddiadwy ac Eco-gyfeillgar i Sir Gaerfyrddin
168 diwrnod yn ôl

Mae Eto, mewn partneriaeth â Hwb Bach y Wlad, yn falch o gyhoeddi cyfres o siopau sionc ledled Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnig cyfle i drigolion brynu anrhegion unigryw a fforddiadwy sydd wedi'u huwchgylchu y Nadolig hwn. Nod y digwyddiadau hyn yw hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau gwastraff, gan groesawu egwyddorion economi gylchol.
Bydd y siopau sionc yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
- Cydweli: 11 Tachwedd
- Llanybydder: 28 Tachwedd
- Llandeilo: 5 Rhagfyr
- Hendy-gwyn ar Daf: 10 Rhagfyr
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i archwilio amrywiaeth o eitemau wedi'u hatgyweirio a'u haddasu at ddibenion gwahanol, sy'n berffaith ar gyfer anrhegion ystyriol sy'n helpu i ddiogelu'r blaned. Trwy ddewis cynhyrchion ail-law a rhai wedi'u huwchgylchu, gall y gymuned gyfrannu at leihau ôl-troed carbon a lleihau gwastraff, gan wneud y Nadolig hwn yn arbennig ac yn gynaliadwy.
Bydd pob digwyddiad yn arddangos amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys nwyddau i'r cartref, teganau a darnau addurnol, a nod y cyfan yw rhoi bywyd newydd i eitemau ail-law. Gall preswylwyr hefyd ddysgu rhagor am bwysigrwydd uwchgylchu a sut y gallant gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Hwb Bach y Wlad i gynnal y siopau sionc hyn yn ein cymuned. Mae'r fenter hon nid yn unig yn darparu opsiynau fforddiadwy o ran anrhegion ond mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a'r economi gylchol. Rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni i gael effaith gadarnhaol y Nadolig hwn."