Sialens Ddarllen yr Haf 2024
5 diwrnod yn ôl
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod dros 1,700 o blant ysgol wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni - sy'n fwy na'r llynedd!
Ni all 1 o bob 4 plentyn ddarllen yn dda erbyn iddynt droi'n 11 oed, gan gyfyngu'n fawr ar eu dewisiadau a'u sgiliau bywyd. Ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn benderfynol o newid hyn. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf, gan sicrhau eu bod yn barod i ddechrau eu blwyddyn ysgol newydd yn yr hydref. Mae plant yn gosod eu nod darllen eu hunain ac yn casglu gwobrwyon am ddarllen unrhyw beth y maent yn ei fwynhau AM DDIM.
Mewn partneriaeth â Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, enw'r her eleni oedd Crefftwyr Campus ac roedd yn canolbwyntio ar greadigrwydd. Yn amrywio o ddawns i ddarlunio, modelu sothach i gerddoriaeth - roedd rhywbeth at ddant pawb! Cymerodd nifer gwych o ddarllenwyr 4-11 oed ran yn y brif her, yn ogystal â Her Fach i'r Plant Cyn Oed Ysgol.
Ymwelodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, â Llyfrgell Caerfyrddin i gyflwyno tarian Sialens Ddarllen yr Haf ar gyfer rhanbarth Caerfyrddin, i Ysgol Waundew.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Hazel Evans i'w ddweud am y digwyddiad:
Roedd yn braf bod yn bresennol yn Llyfrgell Caerfyrddin heddiw i ddathlu cyflawniad gwych y bobl ifanc hyn. Mae'r her hon yn ffordd wych o roi hwb i hyder plant o ran darllen a'u cefnogi wrth iddyn nhw symud i grŵp ysgol neu gyfnod allweddol newydd yn yr hydref. Mae meddu ar lefel dda o ddarllen yn hanfodol er mwyn gwella hunan-barch a sgiliau bywyd plentyn. Mae'n brosiect gwych i hyrwyddo sgiliau darllen a llythrennedd drwy gydol gwyliau'r haf gan gynnig cymhellion, tystysgrifau a medalau am ddarllen o leiaf 6 llyfr. Llongyfarchiadau i Ysgol Parc Waundew.
Roedd y gwobrau yn cynnwys tocynnau teulu ar gyfer Theatrau Sir Gâr, Amgueddfa Cyflymder Pentywyn, y Ganolfan Hamdden a Pharc Gwledig Pen-bre.
Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Rhydaman am ennill tarian ranbarthol Rhydaman, ac Ysgol Hen Heol am ennill tarian ranbarthol Llanelli.
Y gobaith yw y bydd mwy o blant yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf y flwyddyn nesaf ac yn mwynhau darllen.