Pentre Awel yn cyflwyno ei brosiect cyffrous diweddaraf, Our Classroom Climate.
6 diwrnod yn ôl
Mae'r prosiect arloesol, a lansiwyd ar 7 Tachwedd 2024, yn gweithio gyda 6 ysgol gynradd yn Llanelli i gyflwyno rhaglen addysgol ymgollol wedi'i theilwra sy'n canolbwyntio ar y strategaeth newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.
Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan eleni fel a ganlyn:
- Ysgol Maes y Morfa
- Ysgol Pen Rhos
- Ysgol Hen Heol
- Ysgol Ffwrnes
- Ysgol Dewi Sant
- Ysgol y Felin
Dywedodd Mark Douglass, sylfaenydd Our Classroom Climate:
Ar ôl gweld y prosiect anhygoel ym Mhentre Awel, rydym yn falch iawn o gydweithio â'r datblygiad. Drwy ddarparu addysg ynghylch cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd i ysgolion cynradd lleol, gallwn greu cymuned sy'n gallu defnyddio adnoddau addysgol rhyngweithiol digidol ynghylch newid yn yr hinsawdd sy'n mesur newid yn yr hinsawdd mewn amser real.
Y peilot yn Llanelli oedd y cyntaf yng Nghymru ac fe dderbyniodd wobr Earthshot. Roedd yn anhygoel gweld y plant yn rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu gyda'u rhieni, eu hathrawon ac ysgolion eraill yn Llanelli. Rwy'n edrych ymlaen at helpu'r tîm ym Mhentre Awel i greu lleoliad a fydd yn cefnogi ac yn ysbrydoli pob cenhedlaeth a grŵp cymunedol ledled y Sir.
Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Mae cynaliadwyedd wedi'i integreiddio â dyluniad a gweithrediad Canolfan Pentre Awel, drwy fesurau fel pympiau gwres o'r aer a mannau gwefru cerbydau trydan, gan sicrhau bod y datblygiad nid yn unig yn mynd i'r afael ag effeithiau pwysig newid yn yr hinsawdd ond hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwytnwch a thwf economaidd hirdymor.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, datgarboneiddio a chynaliadwyedd:
Hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion am gymryd rhan wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith gyda'r prosiect Our Classroom Climate. Mae'n bwysig sicrhau ein bod yn darparu'r offer addysgol cywir i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ddeall pynciau pwysig fel newid yn yr hinsawdd.
Rwy'n edrych ymlaen at weld faint mae'r disgyblion yn ei ddysgu a sut y gallan nhw ddefnyddio eu harbenigedd amgylcheddol newydd i helpu'r byd o'n cwmpas.
I gael diweddariadau rheolaidd am ddatblygiad Pentre Awel, ewch i'n gwefan neu cofrestrwch ar gyfer ein llythyr newyddion.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am Our Classroom Climate ar y cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am #PentreAwelOCC