Gwerth Cymdeithasol ar waith yng Nghynhadledd Gwerth Sir Gâr
190 diwrnod yn ôl
Peidiwch â cholli'ch cyfle i gwrdd â'r arweinwyr, yr entrepreneuriaid a'r mentrau cymdeithasol sy'n hybu twf economaidd, llesiant ac effaith gymdeithasol gadarnhaol, a hynny yng Nghynhadledd Gwerth Sir Gâr ddydd Iau, 14 Tachwedd.
Mae ffreutur a chegin gymunedol Cegin Hedyn yng nghanol tref Caerfyrddin yn enwog am weini bwyd blasus, iach gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig lleol – ond mae hefyd yn cyflawni pwrpas arall.
Mae'n seiliedig ar gred y sylfaenydd (a'r cogydd arobryn), Deri Reed, sef yr hyn y mae'n ei alw'n 'fraint o rannu’.Mae Cegin Hedyn yn gweithio ar sail 'talwch faint y gallwch'.
Mae Cegin Hedyn, sef ffreutur sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol sy'n newid bywyd, yn sicrhau bod gan bawb fynediad at brydau maethlon, blasus, waeth beth fo'u modd ariannol.
Mae Cwmpas yn falch o fod wedi darparu cymorth busnes arbenigol i helpu Deri i sefydlu ei fusnes cymdeithasol, i greu swyddi ac i ddarparu gwerth cymdeithasol – a gallwch gwrdd ag ef yng Nghynhadledd Gwerth Sir Gâr ddydd Iau, 14 Tachwedd.
Mae entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol yn mynd i'r afael â heriau byd-eang – fel newid hinsawdd, digartrefedd, tlodi ynni a thlodi bwyd, arwahanrwydd cymdeithasol a dirywiad o ran iechyd meddwl – mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Maent yn hyrwyddo cydraddoldeb, llesiant a chynhwysiant cymdeithasol. Maent yn creu swyddi, yn hybu llesiant, ac yn cynnal a meithrin cymunedau.
Ceisiodd Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n werth £2.6 biliwn, hybu twf economaidd 'gyda swyddi a chynhyrchiant da', ac mae wedi galluogi Cwmpas i gefnogi mwy na 50 o fusnesau cymdeithasol ac o leiaf chwe entrepreneur cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Deri, a hynny trwy bartneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd Cynhadledd Gwerth Sir Gâr, a gynhelir ddydd Iau, 14 Tachwedd rhwng 9am a 3pm yn Yr Egin, yn cynnwys siaradwyr ysbrydoledig ac yn ymwneud â chydweithio a dathlu sector cymdeithasol ffyniannus Sir Gaerfyrddin.
Ewch i Gynhadledd Gwerth Sir Gâr a gallwch hefyd gwrdd ag Eleanor Shaw, Prif Weithredwr People Speak Up yn Llanelli, sy'n gweithio gyda Cwmpas i gynnig ei phrofiad a'i chefnogaeth i Deri ar ffurf mentoriaeth.
Mae Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref People Speak Up yn cynnig cymorth o ran llesiant a chwmnïaeth drwy weithgareddau creadigol – y celfyddydau, cerddoriaeth a symud – yng nghartrefi preswylwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl neu rai sy'n teimlo'n unig ac mae'n helpu unigolion i wneud ffrindiau newydd, i ddysgu sgiliau newydd, ac i 'fyw, chwerthin, a charu llawer’.
Cafodd Eleanor gymorth gan Cwmpas o'r blaen, ac yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 enillodd y wobr Hyrwyddwr Menywod.
Dywedodd Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Cwmpas:
Mae gan fentrau cymdeithasol ddealltwriaeth ddofn o anghenion eu cymunedau ac maent mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo gwerth cymdeithasol.
Mae'n anrhydedd inni weithio gyda llawer o entrepreneuriaid a mentrau cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, a hynny yn sgil cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin a ddyrannwyd gan ein partner, Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r busnesau hyn yn sicrhau newid go iawn er gwell.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
O ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mae mentrau cymdeithasol pwysig yn gallu cyflawni prosiectau a rhaglenni sydd o fudd i'n cymunedau. Mae'r digwyddiad yn Yr Egin yn gyfle i ddathlu'r rhai sy'n ymroi i wella cymdeithas ac i gefnogi'r rheiny y mae angen cymorth arnynt.
Hoffwn ddiolch i Cwmpas a phawb sy'n ymwneud â mentrau cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin sy'n canolbwyntio ar adeiladu cymdeithas decach, sy'n fwy cyfartal ac ystyriol.