Ein Trefi Gwledig: Cydweli

37 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref a ddarparwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad wledig y Sir wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Gydweli, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Cydweli, tref arfordirol hanesyddol sydd wedi'i lleoli ar afon Gwendraeth, yn gartref i gastell Normanaidd adnabyddus yn ogystal â chanol tref fywiog a phoblogaidd. Mae'r dref yn llawn hanes a threftadaeth gyfoethog, gan gynnwys chwedl y gath ddu lwcus a'r tywysoges arwrol Gwenllian.

Ffocws allweddol i Gydweli yw ailddatblygu sgwâr y dref, gan sicrhau y gellir defnyddio'r gofod ar gyfer ystod o ddigwyddiadau, yn ogystal â chaniatáu i'r farchnad fisol lwyddiannus ehangu. Llwyddodd y Cyngor Tref i sicrhau cefnogaeth ariannol i ailddatblygu sgwâr y dref, sydd wedi creu lle croesawgar a phoblogaidd i'r gymuned. Mae Sgwâr Cydweli yn cynnal digwyddiad cynnau Goleuadau Nadolig ar 16 Tachwedd 2024, lle gallwch gwrdd â Siôn Corn a bydd stondinau a cherddoriaeth fyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.

Eleni, mae Cydweli yn cynnal Digwyddiad Pride y Gaeaf Sir Gaerfyrddin. Bydd y digwyddiad cynhwysol sy'n addas i'r teulu yn cael ei cynnal ar 14 Rhagfyr 2024 yng Nghanolfan John Burns a bydd yn cynnwys stondinau, adloniant ac arddangosfeydd celf LGBTQIA+. Mae'r digwyddiad yn agored i bob aelod o'r gymuned beth bynnag fo'u hoedran.

Mae nifer o fusnesau yng Nghydweli wedi manteisio ar y gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig, sydd ar gael i adeiladau amhreswyl i adnewyddu tu allan i adeiladau masnachol yn y dref. Ar ôl ei chwblhau, bydd y dref yn cael ei hadnewyddu a'i bywiogi ar gyfer ei hymwelwyr. Mae cyfanswm o bum busnes wedi elwa ac wedi gallu gwella eu safle busnes.

Mae disgwyl i welliannau eraill gael eu cwblhau erbyn dechrau gwanwyn 2025, gan gynnwys mwy o arwyddion, gan gysylltu castell trawiadol Cydweli â'r dref. Nod y prosiect hwn yw cyfeirio'r miloedd o dwristiaid sy'n ymweld â'r castell bob blwyddyn i'r dref i dyfu nifer yr ymwelwyr. Bydd rhagor o brosiectau gwella ar raddfa fach yn digwydd ym maes parcio Glan yr Afon, gyda chefnogaeth y gronfa Mynd i'r Afael â Threfi, ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo.

Mae CETMA, Ymgysylltu â'r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a'r Celfyddydau, menter gymdeithasol yng Nghydweli, wedi'i chefnogi i gydlynu digwyddiadau yn y dref i wneud y mwyaf o botensial twristiaeth Cydweli ac adeiladu cydlyniant cymunedol. Sefydlwyd Caru Cydwelli i gefnogi busnesau a grwpiau eraill i greu eu digwyddiadau cymunedol eu hunain, sy'n annog y gymuned i gydweithio i hyrwyddo'r hyn sy'n wych am Gydweli.

Nododd Jonathan Williams o CETMA:

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Fenter Deg Tref, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am roi'r cyllid i ni gyflawni camau cadarnhaol yng Nghydweli.
Roedd yn wych gweld cynifer o aelodau o'r gymuned a busnesau lleol yn ymuno â'r prosiect.  Mae'n dangos bod llawer o bobl yn meddwl bod gan Gydweli botensial enfawr i dwristiaid, ac mae angen i ni gyd weithio gyda'n gilydd i wneud iddo ddigwydd.

Gallwch ddarllen mwy am Caru Cymru yma: Home | Love Kidwelly

Neu ewch i'w tudalen Facebook i gymryd rhan: Facebook

CETMA Cydweli yw'r canolbwynt canolog ar gyfer llawer o brosiectau yn yr ardal, sy'n gartref i'r banc bwyd ac Oergell Gymunedol Cydweli yn ogystal â darparu cyflenwadau misglwyf a blychau babanod i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Rhoddwyd cymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i CETMA i ehangu ei brosiect economi gylchol, sy'n rhoi cyfle i breswylwyr lleol brynu offer ail-law yn hytrach na phrynu newydd.

Ychwanegodd Jonathan:

 Mae ein prosiect economi gylchol lle rydym yn adnewyddu, yn cynnal Profion Teclynnau Cludadwy (PAT), ac yna'n dosbarthu eitemau trydanol a roddwyd, wedi bod yn chwarae ei ran wrth sicrhau bod eitemau'n cael ail fywyd yn hytrach na'u bod yn cael eu gwaredu.

Mae'r dref hefyd wedi elwa o brosiect Mannau Defnydd yn y Cyfamser Deg Tref. Comisiynwyd y MEans i archwilio lletya busnesau bach annibynnol mewn adeiladau gwag y stryd fawr. Mae Christina Hill a'i busnes Pretty Sip Boutique wedi elwa o siop sionc yn y dref, dywedodd Christina am ei phrofiad fel busnes newydd:

Mae'r cymorth a'r gefnogaeth a gynigiwyd i mi ers cymryd rhan yn y cynllun wedi helpu i adeiladu fy musnes, fy hyder a'm hawydd i symud pethau i fusnes wyneb yn wyneb.
Byddwn yn argymell yn gryf i unrhyw un gymryd rhan mewn cynllun fel hwn os ydyn nhw am dreialu eu busnes a gweld a fyddai'n werth cael siop sionc. Rwy'n bendant yn falch fy mod wedi mentro a phenderfynais dreialu fy siop sionc fy hun. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a byddwn yn ei argymell i bawb.
Mae Means wedi fy nghefnogi yr holl ffordd o ymweld â'r siop a llofnodi'r denantiaeth i fod yno os oes unrhyw broblemau.

 Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau. 

Bydd Hwb Bach y Wlad yng Nghanolfan Tywysoges Gwenllian Cydweli ar yr 2il ddydd Llun o bob mis rhwng 10am a 3pm.

Mae Hwb Bach y Wlad yn ymuno ag Eto ac yn ymweld â 4 lleoliad yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin i roi cyfle i bobl brynu anrhegion Nadolig wedi'u hailbwrpasu. Nid yw'r cyhoedd yn gallu gollwng eitemau ond fe'u hanogir i brynu cynhyrchion o Eto. Mae hyn yn unol ag ymrwymiad Eto i'r economi gylchol - i gadw eitemau'n cael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd.

Gallwch ddod o hyd i Eto yn y lleoliadau canlynol:

Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli 11 Tachwedd 2024, 10-2pm

Llanybydder 28 Tachwedd 2024, 10-2pm

Llandeilo 5 Rhagfyr 2024, 10-2pm

 Hendy-gwyn ar Daf 10 Rhagfyr 2024, 10-2pm

I ddysgu mwy am ymroddiad Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ewch i Amcan Llesiant 3 y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth am Hwb Bach y Wlad, ewch i'w gwefan

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Mae'r prosiect 10 Tref wedi bod yn llwyddiant mawr gan alluogi nifer o welliannau i drefi marchnad gwledig. Ar gyfer Cydweli, mae'r prosiectau yn helpu i gynyddu twristiaeth yn yr ardal yn ogystal â ffocysu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Rwy'n annog unrhyw un sydd heb eisoes, i ymweld â'r dref hanesyddol hon a phrofi'r hyn sydd gan Gydweli i'w gynnig!.

Am fwy o wybodaeth am brosiect 10 Tref, ewch i'r wefan.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.