Disgyblion ysgol Sir Gâr yn croesawu gartref eu harwyr Olympaidd
1 diwrnod yn ôl
Cafodd Emma Finucane a Jessica Roberts, y beicwyr o Sir Gâr a enillodd fedalau aur ac efydd yn y Gemau Olympaidd, groeso twymgalon iawn gan ddisgyblion eu hen ysgolion yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin heddiw, dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024.
Roedd disgyblion o fwy na 10 o ysgolion yno, yn cynnwys Ysgol Model ac Ysgol Sant Ioan Llwyd yr oedd Emma yn ddisgybl ynddynt, ac Ysgol Tre Ioan ac Ysgol y Frenhines Elizabeth lle addysgwyd Jessica. Ynghyd â Llysgenhadon Ifanc Actif, bu’r disgyblion yn bloeddio'u hanogaeth ac yn dathlu campau'r ddwy mewn digwyddiad holi ac ateb arbennig, a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gyda Rhodri Gomer Davies wrth y llyw.
Yn ystod Gemau Olympaidd Paris eleni, enillodd Emma Finucane, sy'n 21 oed, fedal aur fel rhan o dîm sbrint merched Prydain a Gogledd Iwerddon ar y trac beicio, cyn cipio'r fedal efydd yn y cystadlaethau keirin a sbrint. Emma yw'r ferch gyntaf o Brydain i ennill tair medal mewn un gemau Olympaidd ers 1964.
Enillodd Jessica Roberts, 25 oed, fedal efydd yng nghystadleuaeth tîm ymlid y merched ar y trac ym Mharis.
Yn ogystal â'u llwyddiant Olympaidd rhyfeddol, mae'r ddwy ferch wedi dod yn Bencampwyr Byd UCI yn eu campau arbenigol.
Wrth dderbyn cymeradwyaeth haeddiannol y disgyblion ysgol, dywedodd Jessica Roberts:
Mae’n arbennig iawn i mi gan taw yma ddechreuodd y cyfan. Dyw Caerfyrddin ddim y lle mwya’, felly mae’n dipyn o beth cael dau o bobl o Gaerfyrddin sydd wedi llwyddo i’r fath raddau ym myd beicio. Mae’n wych bod nôl ac rwy’ am ysbrydoli plant i wneud beth rydyn ni’n wneud.”
Dywedodd Emma Finucane:
Mae’n anhygoel dod gartref a chael y fath groeso yma heddiw; mae’n swreal a dweud y gwir. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint o ysgolion fyddai yma heddiw, ond dyna pam rwy’n gwneud beth rwy’n gwneud – rwy’ am ysbrydoli merched a bechgyn i reidio eu beiciau. Mae’n arbennig iawn cael dychwelyd i ble ddechreuodd popeth, nôl i’r felodrom a gweld fy ffrindiau a fy nheulu.”
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydym ni'n ymfalchïo'n fawr yn llwyddiant Emma a Jessica yn y Gemau Olympaidd eleni, a gwych yw gweld ein disgyblion ysgol yn dathlu gorchestion eu harwyr.
Mae'n werth nodi i Jessica ac Emma ddechrau eu gyrfaoedd disglair gyda Towy Riders ar y Felodrom yng Nghaerfyrddin. Mae eu taith yr holl ffordd i'r brig yn tystio i'w gwaith caled a'r gefnogaeth ragorol gan ein cymuned.
Mae'r hyn mae Emma wedi'i gyflawni wedi cael cydnabyddiaeth leol hefyd, gan mai hi sydd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Flynyddol Sir Gaerfyrddin am y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar ben hynny, hi yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar hyn o bryd. Mae ei rhagoriaeth a'i hymroddiad cyson i'w champ yn ysbrydoliaeth enfawr.
Yn ogystal â bod yn enillwyr medalau Olympaidd, merched Sir Gâr yw Emma a Jessica, ac maen nhw'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr. Llongyfarchiadau mawr i chi ferched.”