Diogelwch Ffyrdd Cymru yn croesawu Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd

112 diwrnod yn ôl

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru, sef y bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol Cymru, y gwasanaethau brys, GoSafe, Llywodraeth Cymru a RoSPA, yn falch o gyhoeddi penodiad Cadeirydd newydd, Rhys John-Howes, ac Is-gadeirydd newydd, Kayleigh Tonkins.

Mae'r bartneriaeth yn hynod ddiolchgar i'r Cadeirydd blaenorol, Teresa Ciano, am ei harweinyddiaeth am y chwe blynedd diwethaf a'i hymroddiad i ddiogelwch ar y ffyrdd; hoffem ddymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

Mae'r penodiadau newydd yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd i'w rolau. Mae Rhys John-Howes yn cael ei gyflogi yn y sector diogelwch ffyrdd ers 2002 ac fel Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin mae'n dod ag ymrwymiad i barhau’r cydweithio a’r rhyngweithio rhwng yr holl bartneriaid allweddol ledled Cymru.

Pan gafodd ei benodi, dywedodd Rhys, "Gyda bron 23 blynedd o brofiad ym maes diogelwch ar y ffyrdd, rwy'n teimlo'n angerddol iawn ynghylch lleihau nifer yr anafiadau ar ein ffyrdd, ac mae'n anrhydedd imi gael fy mhenodi'n Gadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â'n hymdrechion ar y cyd fel partneriaeth i amddiffyn ein preswylwyr a'n hymwelwyr, yn enwedig ein defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed.

Er bod y degawd diwethaf wedi gweld gostyngiad o 47% yng nghyfanswm y rhaid sydd wedi’i hanafu ar y ffyrdd yng Nghymru, mae'r cynnydd o ran nifer y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol wedi aros yn ystyfnig gwaetha’r modd. Gyda'n gilydd, fel cenedl ac fel cymunedau lleol, gallwn ostwng nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd ac achub bywydau.


Mae Kayleigh Tonkins yn dod ag wyth mlynedd o arbenigedd mewn diogelwch ar y ffyrdd i rôl yr Is-gadeirydd, ar ôl bod yn Swyddog Diogelwch Ffyrdd yng Nghyngor Sir Ceredigion ers 2016. Mae'r ddau gydweithiwr wedi dangos cred gadarn ym manteision gweithio mewn partneriaeth, ar ôl bod yn gyfranwyr cyson a gwerthfawr at fentrau cenedlaethol.

Gan weithio ar draws ystod o brosiectau addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd diogelwch ffyrdd, mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cefnogi cenhadaeth y bartneriaeth: lleihau nifer yr anafusion ymhellach drwy gydweithio. Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i ddefnyddio'r ffyrdd yn gyfreithlon ac yn ddiogel, gan ddangos ystyriaeth a chwrteisi i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae pob anaf neu farwolaeth ar ein ffyrdd yn annerbyniol ac yn aml yn cael effaith ddinistriol ar y rhai sy'n rhan ohonyn nhw yn ogystal â ffrindiau ac anwyliaid. Rydym yn falch bod gennyn ni rai o'r ffyrdd mwyaf diogel yn y byd, ond nid da lle gellir gwell. Drwy weithio gyda'n gilydd, y gobaith yw y gallwn ni wneud rhagor o welliannau a sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i diogelwchffyrddcymru.org.uk