Cyngor yn darparu tai newydd yng Nghaerfyrddin

9 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu cartrefi newydd yng Nghaerfyrddin a fydd yn darparu llety modern ac ynni-effeithlon i bedwar teulu.

Mae'r datblygiad newydd ar safle hen Dŷ Wauniago ac mae'n cynnwys tri chartref dwy ystafell wely ac un cartref pedair ystafell wely.

Gyda ffocws ar wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau ynni i breswylwyr, mae'r cartrefi yn cael eu pweru gan drydan yn hytrach na gwres canolog nwy traddodiadol, gan gynhyrchu ôl troed carbon llai a dileu'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Maent hefyd yn cynnwys lefelau uchel o inswleiddio, gan eu cadw'n gynhesach am gyfnod hirach.

Mae paneli solar hefyd wedi'u gosod i gynhyrchu eu hynni glân eu hunain ac LEDs i ddarparu goleuadau cost isel.

Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu yn unol â'r Polisi Gosodiadau Lleol a grëwyd yn benodol ar gyfer y datblygiad. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi i bobl leol gyda meini prawf penodol i ystyried materion lleol ac yn helpu i greu cymuned gynaliadwy gytbwys.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Mae'r cartrefi newydd ar hen safle Tŷ Wauniago yn ychwanegiad gwych at y llety y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'u darparu eisoes eleni yn Llanelli a Chaerfyrddin, ac mae mwy o brosiectau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd i'w cwblhau yn 2025.

Rwy'n falch iawn y bydd y prosiect hwn yn darparu cartrefi teuluol o ansawdd da i bobl leol ac yn gwneud defnydd da o safle a arferai gael ei feddiannu gan adeilad nad oedd yn addas i'r diben mwyach.”

Mae datblygiadau yn rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu 2,000 o gartrefi Cyngor fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at agenda ynni gwyrdd y Cyngor.