Cyngor yn ceisio barn am drwyddedu landlordiaid yn Nhyisha
2 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awyddus i gael barn ar reoliadau ychwanegol arfaethedig ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn ardaloedd Tyisha a Glanymôr yn Llanelli.
Gwahoddir preswylwyr, landlordiaid, tenantiaid a'r rhai sydd â chysylltiad â wardiau Tyisha a Glanymôr i ddweud eu dweud ar Gynllun Trwyddedu Ychwanegol posibl ar gyfer eiddo rhent mwy.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch yr angen am y cynllun, amodau trwyddedu, y costau cysylltiedig a'r effeithiau a'r buddion posibl. Bydd yr ymatebion yn helpu i lunio'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Nod trwyddedu ychwanegol yw gwella safon tai rhent mwy a sicrhau bod landlordiaid o ansawdd da yn gweithredu yn yr ardal.
Rydym am i landlordiaid, preswylwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Nhyisha a Glanymôr ein helpu i lunio Cynllun Trwyddedu Ychwanegol drwy ddweud wrthym am unrhyw faterion blaenorol y mae Tai Amlfeddiannaeth yn eu hwynebu, pa fesurau y gellid eu cynnwys er budd preswylwyr a landlordiaid a pha effaith bosibl y gallai'r Cynllun hwn ei chael."
I gael rhagor o wybodaeth neu i lenwi'r arolwg, ewch i wefan y Cyngor.