Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn

34 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto yn dangos ei gefnogaeth i ymgyrch Rhuban Gwyn 2024 'Mae’n Dechrau gyda Dynion', sy'n digwydd ddydd Llun, 25 Tachwedd ac a ddilynir gan 16 Diwrnod Gweithredu.

White Ribbon yw prif elusen y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, trais gan ddynion yn erbyn menywod yw'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar.  Ond yn y pen draw, mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn fater i bawb, nid dim ond menywod. 

Bydd baneri'r Rhuban Gwyn yn hedfan yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a neuaddau tref Llanelli a Rhydaman ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo ar noson 25 Tachwedd i ddangos cefnogaeth.

Bydd y Cyngor yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch wrth weithio gydag asiantaethau partner, fel yr Heddlu ac yn ymweld â safleoedd trwyddedig ledled y sir, yn ogystal â'n canolfannau hamdden, ein theatrau a'n llyfrgelloedd.

Bydd Drama Ddogfen a grëwyd ac a gynhyrchwyd gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, yn cael ei lansio'n swyddogol mewn digwyddiad yn Hwb Busnes Sir Gaerfyrddin yn Rhodfa'r Santes Catrin ddydd Llun, 25 Tachwedd yn dilyn taith gerdded fer drwy'r dref i ddynion a bechgyn ddangos eu cefnogaeth, wedi'i threfnu gan Wasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin Cyf (CarmDas). Bydd y daith gerdded yn dechrau am 1.30pm o'r Neuadd Sirol ac yn gorffen yn Rhodfa'r Santes Catrin, lle bydd lluniaeth ar gael.

Bydd y Ddrama Ddogfen 15 munud o hyd ‘Codi Llais yn erbyn Trais’ yn cael ei lansio’n swyddogol gan Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y Cyngor.

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnwys grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed o bob rhan o Sir Gaerfyrddin sy'n gweithredu fel llais i bobl ifanc drwy gynrychioli barn a safbwyntiau holl bobl ifanc y sir, gyda chefnogaeth swyddogion ieuenctid o Gyngor Sir Caerfyrddin.

Fel rhan o'r prosiect, mynychodd 12 o bobl ifanc o bob rhan o Sir Gaerfyrddin hyfforddiant ar gam-drin domestig, gan ddysgu sut i gadw eu hunain yn ddiogel mewn sefyllfaoedd o'r fath, edrych ar ble i fynd am gefnogaeth/arweiniad a chwrdd â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i gael gwell dealltwriaeth o'r mater.

Mae 'Codi Llais yn erbyn Trais' yn edrych ar gamau yr hyn sy'n digwydd ar ôl i berson ifanc riportio cam-drin domestig gan fod aelodau o'r Cyngor Ieuenctid yn teimlo mai anaml y siaradir am ganlyniad riportio cam-drin domestig, gan wneud pobl ifanc ofn rhoi gwybod am unrhyw beth gan nad ydynt yn gwybod beth fydd yn digwydd wedyn.

Mae’r Cyngor Ieuenctid yn gobeithio y bydd y Ddrama Ddogfen yn cael ei defnyddio gan weithwyr proffesiynol i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc eraill ei bod hi’n iawn i siarad ac y bydd yn rhoi sicrwydd iddynt fod cymorth ar gael iddynt os byddant yn rhoi gwybod am unrhyw gam-drin domestig y maent yn ei weld neu’n ei brofi.

Dywedodd Toby Bithray, Is-gadeirydd y Cyngor Ieuenctid:

Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig hyrwyddo a helpu i godi ymwybyddiaeth o effeithiau bod yn dyst i gam-drin domestig ac annog pobl ifanc i ddefnyddio eu llais a sefyll yn erbyn cam-drin domestig a gwneud riportio cam-drin domestig ychydig yn haws. 

Mae wedi bod yn brofiad anhygoel cael gweithio gyda phobl ifanc mor dalentog sydd mor angerddol am y prosiect a'r mater hwn. Mae'r holl bobl ifanc dan sylw wedi cael eu hysbrydoli i weithio i ennill y frwydr yn erbyn Cam-drin Domestig."

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Carys Jones:

Fel Awdurdod Lleol, rydym yn llwyr gefnogi'r Ymgyrch Rhuban Gwyn, gan fod mynd i'r afael â thrais gan ddynion yn erbyn menywod yn gyfrifoldeb ar gymdeithas gyfan. 

Rwy'n arbennig o falch o waith rhagorol aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wrth gynhyrchu'r ddrama ddogfen hon i godi ymwybyddiaeth o'r mater difrifol iawn hwn ymhlith eu cyfoedion. Mae'r Cyngor Ieuenctid yn chwarae rhan bwysig o fewn amcan llesiant y Cyngor Sir o alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac maent yn enghraifft wych o ddinasyddion moesegol gwybodus yng Nghymru a'r byd." 

Byddwch yn gallu gweld y Ddrama Ddogfen ar Codi Llais Yn Erbyn Trais - Youth Sirgar