Carnifal a Chynnau Goleuadau Nadolig Llanelli ar 22 Tachwedd
5 diwrnod yn ôl
Dim ond wythnos sydd i fynd tan Garnifal Nadolig Llanelli 2024 - pan fydd yr orymdaith fywiog, sy'n cynnwys lorïau, slediau a thractorau wedi'u haddurno, yn dod i strydoedd Llanelli ddydd Gwener, 22 Tachwedd.
Bydd teuluoedd o Lanelli, Sir Gaerfyrddin a thu hwnt yn dod at ei gilydd yng nghanol y dref i ddathlu a dechrau cyfri'r diwrnodau tan y Nadolig ac, wrth gwrs, gweld goleuadau Nadolig Llanelli yn cael eu cynnau.
Bydd yr hwyl yn dechrau am 4pm gydag agoriad y ffair.
Carnifal Nadolig Llanelli yw un o'r digwyddiadau Nadolig cymunedol mwyaf yng Nghymru, ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli a chaiff y ffair bleser ei chyflenwi gan South Wales Showmen’s Guild.
Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth yn agosach at yr amser.
Mae gwirfoddolwyr Ford Gron Llanelli yn cydlynu gorymdaith y carnifal, gyda chefnogaeth anhygoel gan Owens Group, M & M Greene ac Oliver Jordan Transport ac mae dros 22 o gynigion wedi dod i law ar gyfer 2024.
Bydd gorymdaith y carnifal yn gadael y Meysydd Gŵyl, Pwll, am 6.15pm ac yn cyrraedd y dref yn fuan ar ôl cynnau'r goleuadau Nadolig am 6.45pm.
Er mwyn hwyluso taith y carnifal, bydd Stryd yr Eglwys, Llanelli, o'r gyffordd â Stryd Murray hyd at y gyffordd â Gelli Onn, ar gau rhwng 5.45pm ac 8pm. Bydd Gelli Onn hefyd ar gau i draffig sy'n mynd i'r gorllewin yn unig, o'r gyffordd â Stryd Thomas.
Wrth i'r noson dynnu at ei therfyn, bydd tân gwyllt yn dechrau am 7.45pm a bydd y ffair bleser ar agor tan 9pm.
Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth goleuadau'r Nadolig
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cynghorau Gwledig a Thref Llanelli ac Ymlaen Llanelli yn cynnal cystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig gyda'r dyluniad buddugol yn cael ei arddangos yn y dref.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai enillwyr 2024 yw Frankie Rees, Ysgol Maes y Morfa, Llanelli, sydd wedi ennill y categori iau a Lucia Rees, Ysgol Pum Heol, Llanelli yn ennill y categori i blant bach. Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae paratoadau'r Nadolig yn dechrau gyda'r dathliadau yng Ngharnifal Nadolig Llanelli, sef digwyddiad gwych sy'n dod â chymuned gyfan Llanelli at ei gilydd ac yn denu ymwelwyr o bell i fwynhau dathliadau'r dref.
Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at gwrdd a llongyfarch enillwyr y gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig a gweld eu dyluniadau'n dod yn fyw.
Mae llawer o waith caled wedi cael ei wneud gan nifer o bobl dros gyfnod o fisoedd i gynnal Carnifal Nadolig ar y raddfa hon, ac rwy'n ddiolchgar am eu gwaith cynllunio gofalus a manwl."
Dywedodd y Cynghorydd Martin Davies, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli
Unwaith eto, mae'r cyngor yn falch o gefnogi'r Carnifal Nadolig blynyddol a'r digwyddiad cynnau'r goleuadau Nadolig mewn cydweithrediad â'n partneriaid. Mae'r digwyddiad yn draddodiad hirsefydlog a phoblogaidd sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd yn ystod cyfnod yr Ŵyl. Rwy'n gobeithio'n fawr eleni y bydd y digwyddiad yn cynnig profiad hudolus i bawb, o'r arddangosfeydd goleuadau disglair i'r atyniadau Nadoligaidd sy'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd, a bydd yn dod â llawenydd, cyffro a hwyl yr ŵyl i'n tref yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd David Darkin, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli,
Fel arweinydd Cyngor Tref Llanelli, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Garnifal Nadolig Llanelli 2024. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i'n cymuned ddod at ei gilydd ac arddangos y gorau o Lanelli. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau, gan gynnwys gorymdaith fywiog, tân gwyllt ysblennydd, a llu o weithgareddau llawn hwyl. Rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yno a gwneud carnifal eleni yn un o'r goreuon eto!"
Carnifal Llanelli – Amserlen y diwrnod
- 12:00pm: Stryd Cowell ar gau
- 4pm: Reidiau ffair mawr a bach yn agor ynghyd â llawer o stondinau yn ogystal ag amrywiaeth o luniaeth twym ac oer
- 5.45pm: Ffordd orllewinol Gelli Onn ar gau, yn ogystal â Stryd yr Eglwys a strydoedd bychain.
- 6.15pm: Gorymdaith y Carnifal yn gadael y Meysydd Gŵyl, Heol y Sandy*
- 7pm: Gorymdaith y Carnifal yn cyrraedd ardal Neuadd y Dref*.
- 7.40pm: Arddangosfa tân gwyllt arbennig ** (Gerddi Neuadd y Dref)
- 9pm: Ffair bleser yn cau
*Sylwch y gallai'r holl amserau a'r gweithgareddau newid. Bydd ffyrdd yn cael eu cau o 12 canol dydd a bydd hyn yn effeithio ar draffig canol y dref tan oddeutu 8pm.
** Gallai'r amserau hyn newid yn sgil Gorymdaith y Carnifal
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y diwrnod, edrychwch ar dudalen Darganfod Sir Gâr