Cabinet y Cyngor yn cytuno i gynyddu'r cynnig Perchentyaeth Cost Isel yn Sir Gaerfyrddin
2 diwrnod yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i gynyddu'r opsiynau Perchnogaeth Cost Isel sydd ar gael ledled y sir, gan ddarparu gwell cyfleoedd i unigolion a theuluoedd cymwys sydd am brynu eu cartref eu hunain ond nad ydynt yn gallu fforddio prynu eiddo o'r farchnad agored.
Bydd penderfyniad y Cabinet yn:
- Sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gynnig amrywiaeth o gynhyrchion tai fforddiadwy, gan gynnwys perchentyaeth cost isel
- Darparu opsiynau perchentyaeth cost isel i bobl ifanc a phobl oedran gweithio, i'w helpu i aros yn eu cymunedau a dod yn berchnogion tŷ
- Sicrhau bod perchentyaeth yn bosibilrwydd gwirioneddol i bobl, yn enwedig yng nghymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin
- Amddiffyn y Gymraeg a Diwylliant Cymru
- Galluogi mynediad at berchentyaeth a allai helpu preswylwyr sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor i brynu eu cartref eu hunain, gan ryddhau tai cymdeithasol i'r rheiny sydd eu hangen fwyaf.
Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun Prynu Cartref Cymru ar unwaith drwy gydweithio â Phartneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Bydd cynhyrchion Perchentyaeth Cost Isel newydd hefyd yn cael eu datblygu i'w defnyddio ar rai o safleoedd adeiladu newydd y Cyngor lle mae angen clir, a cheisir cymeradwyaeth yr Aelod Cabinet dros Gartrefi fesul safle.
Bydd meini prawf llym o ran bod yn gymwys yn perthyn i'r holl gynhyrchion Perchentyaeth Cost Isel. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gymwys allu sicrhau morgais a fforddio'r ad-daliadau a'r costau eraill sy'n gysylltiedig â phrynu cartref. Mae'n rhaid iddynt hefyd gael cysylltiad lleol cryf â'r ardal lle maent am brynu cartref, gan helpu pobl leol i aros yn eu cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o gyfleoedd â phosibl i breswylwyr ddod yn berchnogion tŷ trwy gynnig opsiynau tai fforddiadwy hyblyg i unigolion a theuluoedd.
Bydd cynyddu'r cynnig Perchnogaeth Cost Isel yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn ein galluogi i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi yn gyflymach i ateb y galw."