Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau i ganolbwyntio dyraniadau tai cymdeithasol ar y rheiny sydd â'r angen mwyaf
2 diwrnod yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i weithredu Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol a fydd yn parhau i fynd i'r afael â phwysau ar dai a lleihau'r amser y mae'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn aros am dai cymdeithasol.
Yn seiliedig ar y Polisi Dyraniadau Brys llwyddiannus a gyflwynwyd yn 2023, datblygwyd y Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol newydd yn dilyn ymgynghoriad 12 wythnos o hyd.
Mae'r Polisi yn galluogi cartrefi i gael eu paru'n uniongyrchol â'r ymgeiswyr sydd â'r angen mwyaf, fel y rhai sy'n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd angen tai ar frys. Bydd hefyd yn galluogi i gartrefi gael eu dyrannu'n gynt ac i'r preswylwyr hynny y maent fwyaf addas ar eu cyfer.
Mae gan y Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol dri band diffiniedig:
Band A: Ffafriaeth ychwanegol – y rhai sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu'r rhai sydd angen tai ar frys.
Band B: Angen am dŷ: Ffafriaeth resymol - Gan gynnwys preswylwyr sydd angen symud oherwydd anghenion meddygol/lles, y rhai sy'n ceisio trosglwyddo i eiddo llai (tanfeddiannu), y rhai sydd am symud o gartref wedi'i addasu nad oes ei angen arnynt mwyach neu'r rhai sy'n byw mewn eiddo gorlawn neu mewn amodau afiach ar hyn o bryd.
Band C: Ymgeiswyr nad oes ganddynt angen am dŷ.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n gallu diwallu'n ariannol eu hangen eu hunain am dai, ymgeiswyr nad oes ganddynt gysylltiad lleol â Sir Gaerfyrddin nac ymgeiswyr, neu aelodau o'u haelwyd, sydd wedi'u dyfarnu'n euog o ymddygiad annerbyniol, yn cael ffafriaeth o dan y Polisi hwn.
Fel rhan o'r Polisi, anfonir negeseuon atgoffa at ymgeiswyr i'w hatgoffa i ailgofrestru eu diddordeb 6 mis a 12 mis ar ôl eu dyddiad cofrestru. Gall methu ag ailgofrestru, defnyddio eu cyfrif neu gynnig am eiddo sy'n diwallu eu hanghenion olygu y bydd ymgeiswyr yn cael eu tynnu o'r Gofrestr Tai er mwyn sicrhau mai dim ond y rhai y mae angen arnynt y gwasanaeth sydd wedi'u cofrestru. Bydd cymorth i ddefnyddio'r Gofrestr Tai yn cael ei ddarparu i unrhyw un sydd ei angen.
Bydd pob cartref yn cael ei baru'n uniongyrchol a dim ond os na fydd yn bosib paru eiddo â rhywun mewn amgylchiadau eithriadol neu Fand A o'r gofrestr fydd yr eiddo'n cael ei hysbysebu ar wefan Canfod Cartref.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Mae'r Polisi Brys wedi galluogi'r Cyngor i ddiffinio anghenion y rhai sydd ar y gofrestr yn gliriach ac mae'n ein galluogi ni i ddarparu tai addas yn gynt i'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai.
Rwy'n falch iawn ein bod nawr yn gallu cyflwyno'r Polisi hwn yn barhaol, yn dilyn llwyddiant y Polisi Brys."