Buddsoddi yn ein hamgylchedd
5 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio tuag at ei darged o garbon sero net erbyn 2030 drwy ei waith cydweithredol o fewn ein cymunedau lleol. Gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU [UKSPF], mae'r Cyngor Sir wedi gallu ariannu amrywiaeth o brosiectau sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd ynni, darparu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella'r amgylchedd o'n cwmpas.
Un prosiect a gefnogir gan y gronfa yw Tetrim Teas Ltd sydd wedi'i leoli yn Nhrimsaran, ger Cydweli. Tetrim Ltd yw'r cwmni cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Hempcrete, deunydd adeiladu sy'n seiliedig ar ddeunydd biolegol, wrth ddatblygu asedau cymunedol yn Nhrimsaran. Mae'r deunydd chwyldroadol a modern, a ddatblygwyd yn Ffrainc yn wreiddiol yn ystod y 1980au, yn cael ei ddefnyddio i adfywio hen Neuadd Les y Glowyr yn y pentref. Bydd trawsnewid yr adeilad, sy'n adfeiliedig, yn Ganolfan Prosesu a Sychu Bwyd, a'i wella gan ddefnyddio deunydd adeiladu arbennig, yn helpu i atal lleithder mewn amgylchedd sy'n arbennig ar gyfer bwyd.
Mae Tetrim Teas yn pecynnu eu bagiau te bioddiraddadwy mewn blychau cardbord y gellir eu compostio a'u hailgylchu, gan osgoi plastigau. Bydd y prosiect yn creu swyddi newydd i bobl leol ac yn darparu budd cymdeithasol trwy hwyluso clybiau te wythnosol ar gyfer y gymuned wledig, yn ogystal â diwrnodau addysg gymunedol ynghylch 'Beth yw Hempcrete'.
Cydweli yw Tref y Mis ar gyfer mis Tachwedd!
Mae'r prosiect CETMA, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ymgysylltu â'r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a'r Celfyddydau, wedi bod yn gweithio'n galed, gan gyflawni prosiect economi gylchol sy'n canolbwyntio ar annog pobl leol i brynu offer trydanol ail-law.
Dywedodd Jonathan Williams o CETMA:
Mae ein prosiect economi gylchol lle rydym yn adnewyddu, yn cynnal Profion Teclynnau Cludadwy (PAT), ac yna'n dosbarthu eitemau trydanol a roddwyd, wedi bod yn chwarae ei ran wrth sicrhau bod eitemau'n cael ail fywyd yn hytrach na'u bod yn cael eu gwaredu.
I ddarllen rhagor am ein tref y mis, ewch i'r dudalen Newyddion.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'n bwysig sôn am y gwaith mae ein trefi a'n cymunedau yn ei wneud er budd ein hamgylchedd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Gyda diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gallwn roi arian i brosiectau sy'n gweithio yn ein hardal leol i addysgu a darparu cyfleoedd i drigolion Sir Gaerfyrddin ynghylch y newidiadau y gallant eu gwneud i wella ein hinsawdd, gan sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wella'r amgylchedd o'n cwmpas.
Darganfyddwch ragor am y prosiectau carbon sero eraill a gefnogir gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Prosiectau economi gylchol yn cefnogi lleihau gwastraff
- Mae SERO sy'n cael ei redeg gan Caerfyrddin Gyda'n Gilydd yn ganolfan hinsawdd a'r amgylchedd newydd yng nghanol Caerfyrddin, sy'n cynnal gweithdai, digwyddiadau a dangosiadau ffilm rheolaidd ynghylch sut y gallwn ni i gyd leihau, ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau.
https://carmarthen-together.vercel.app/en - Mae'r ganolfan Foothold yn Llanelli yn agor Canolfan Gymunedol newydd gyda'r nod o hyrwyddo arferion economi gylchol a lleihau gwastraff ar draws Llanelli. https://footholdcymru.org.uk/cy/
- Bydd y Sied Nwyddau Rheilffordd yn Llanelli yn agor canolfan lanhau newydd, lle caiff aelodau'r cyhoedd fynediad at ystod eang o ddeunyddiau glanhau bioddiraddadwy. Ewch ati i gofrestru eich diddordeb drwy anfon neges e-bost: llanellirgst@gmail.com
Gwella effeithlonrwydd ynni
- Mae Padlwyr Llandysul wedi cael cyllid ar gyfer paneli solar, gan leihau eu cyflenwad o'r grid 25% drwy storio pŵer ychwanegol mewn batris. Rhagor o fanylion: Prosiect Ynni Adnewyddadwy (llyw.cymru)
- Mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi cael cyllid i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb ynghylch Tref Caerfyrddin yn cyflawni sero net erbyn 2050. Astudiaeth Ddichonoldeb - Ynni Cymunedol (llyw.cymru)
Gwella'r amgylchedd
- Mae Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd wedi adfer nifer o hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau troed yn ei ardal, gan ailgysylltu'r cymunedau ac adfer seilwaith cerdded. Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd (llyw.cymru)
- Nod Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, trwy gyfranogiad gwirfoddolwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, yw tynnu 2 dunnell o wastraff o'r afonydd yn y sir. Mabwysiadu Isafon (llyw.cymru)
- Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu darnau o fannau gwyrdd nad ydynt yn cael eu defnyddio'n llawn ar draws safleoedd y byrddau iechyd yn Sir Gaerfyrddin.
Gwyrddio'r Tir – Shades of Green (llyw.cymru)
Trafnidiaeth Gyhoeddus
- Mae Bws Bach y Wlad yn wasanaeth bws gwledig, sy'n gymorth i'r rhai mewn cymunedau ynysig, gan leihau'r angen i fod yn berchen ar gar. Hwb Bach Y Wlad (llyw.cymru)
Mae prosiect Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi yn wasanaeth gwirfoddol sydd wedi prynu bws mini 17 sedd i fynd i'r afael â'r diffyg trafnidiaeth i drigolion yn ardal Cwm Gwendraeth. Driving Forward (llyw.cymru)