Arbenigwyr eiddo yn ymuno â phrosiect Pentre Awel

6 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cymorth gan asiantau eiddo masnachol, BP2 a Savills, i farchnata'r cyfleoedd i fusnesau a sefydliadau brydlesu lle yng ngham cyntaf prosiect Pentre Awel. Canolfan, a elwid gynt yn 'Parth 1', yw canolbwynt y prosiect ac mae'n targedu sefydliadau o bob maint i fanteisio ar y swyddfeydd a mannau cydweithio Gradd A newydd yn natblygiad newydd Llanelli gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio'n agos gyda BP2, grŵp ymgynghori sy'n arbenigo mewn prydlesu yn Abertawe, ochr yn ochr â swyddfa Savills yng Nghaerdydd, darparwyr gwasanaethau eiddo tirol rhyngwladol, i greu strategaeth farchnata bwrpasol. Nod y bartneriaeth hon yw defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd helaeth BP2 a Savills am y farchnad i ddenu darpar fusnesau i Canolfan.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyd-fynd â lansiad llyfryn marchnata manwl sy'n dod â Canolfan yn fyw, gan fanylu ar y swyddfeydd arloesol, hyblyg ac unigryw i sefydliadau eu gosod ac ehangu. Nid lle yn unig yw Canolfan - mae'n ymwneud â chreu gweithle sydd wedi'i addasu i'ch anghenion. Mae'r swyddfeydd unigryw wedi'u cynllunio ar gyfer cynhyrchiant, gan gynnig amgylchedd sy'n ysbrydoledig ac yn effeithlon. Bydd Canolfan hefyd yn cynnwys cyfleusterau hamdden newydd o'r radd flaenaf gan gynnwys pyllau nofio, neuadd chwaraeon, campfa a chaffi a fydd ar gael i'w defnyddio gan gwmnïau sy'n ymrwymo i le yng Nghanolfan Pentre Awel.

Bydd Canolfan yn darparu mannau addysg, ymchwil a datblygu busnes, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Chwaraeon a Hamdden Actif, a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch eraill.  

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydym yn falch iawn ein bod wedi ymuno ag asiantau eiddo profiadol BP2 a Savills. Bydd sefydliadau sy'n manteisio ar y cynnig unigryw yng Nghanolfan Pentre Awel yn elwa ar le sy'n llawn hanes cyfoethog ac yn mwynhau golygfeydd godidog sy'n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru. Gall Canolfan Pentre Awel helpu i gefnogi busnesau o bob maint i ehangu a phrofi'r ystod o gyfleusterau sydd ganddi i'w cynnig.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i BP2 a Savills am eu gwaith parhaus i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol. 

Dywedodd David Blyth, Cyfarwyddwr BP2 Property Consultants yn Abertawe:

Mae Canolfan yn gynllun cyffrous ac arloesol sy'n darparu lle masnachol hyblyg o ansawdd uchel mewn amgylchedd defnydd cymysg modern a chynaliadwy. Nod yr ystod o swyddfeydd a labordai sydd ar gael yw denu cwmnïau lleol sy'n ehangu a busnesau cenedlaethol sy'n mewnfuddsoddi.

Ychwanegodd Gary Carver, cyfarwyddwr gofod busnes swyddfa Savills yng Nghaerdydd:

Mae hwn yn brosiect nodedig cyffrous i weithio arno ac yn un y credwn y bydd yn denu ystod eang o gwmnïau yn y sectorau gwyddorau bywyd, llesiant a gofal cymdeithasol. Gallwn ddarparu ar gyfer cwmnïau yn y sectorau hyn sy'n chwilio am swyddfeydd o 200 troedfedd sgwâr hyd at 67,000 troedfedd sgwâr.

Mae Llyfryn Marchnata Pentre Awel bellach ar gael ar ein gwefan: Pentre Awel (llyw.cymru)

Mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan y prif gontractwr Bouygues UK.

Bydd Canolfan ar agor i'r cyhoedd yng Ngwanwyn 2025.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Pentre Awel, ewch i'r wefan. Pentre Awel (llyw.cymru)