Teimlo'n bositif yn Sir Gaerfyrddin; dros £500k yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl

6 diwrnod yn ôl

Eleni ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd [10 Hydref], rydym yn tynnu sylw at y gwaith pwysig y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn ei wneud i gefnogi sefydliadau a phrosiectau iechyd meddwl ledled y Sir.

Mae prosiectau'n amrywio o sefydliadau cenedlaethol sefydledig fel Atal Pobl Ifanc rhag Cyflawni Hunanladdiad PAPYRUS a Mind, i grwpiau ieuenctid lleol ac elusennau cymorth arbenigol. 

Mae'r gronfa yn cefnogi Mind Llanelli i redeg ei Rhaglen Hunangymorth â Chefnogaeth sy'n rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd i bobl ddeall, amddiffyn a gwella eu hiechyd meddwl. Bydd y rhaglen yn cynnig cymorth gyda'r holl broblemau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder, galar, unigrwydd, hunan-barch isel, iselder, rheoli dicter, straen a deall menopos. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan.

Yn dilyn pandemig COVID-19, mae nifer y bobl ifanc sydd wedi profi problemau iechyd meddwl wedi cynyddu. Drwy gyfuniad o wasanaethau ataliol a chefnogol, mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn bwriadu helpu i fynd i'r afael â hyn. Nod y buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth ieuenctid fel People Speak Up ac amryw glybiau ieuenctid a grwpiau ieuenctid yw lleihau cyfradd yr atgyfeiriadau i wasanaethau'r GIG.

Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor ynghylch pa wasanaethau sydd ar gael i fynd i'r afael ag effeithiau parhaol iechyd meddwl. Mae ein Hybiau yn gweithio'n agos gyda nifer o elusennau a sefydliadau er mwyn rhoi'r offer gorau i breswylwyr Sir Gaerfyrddin ymdopi â'u hiechyd meddwl.

Mae ein Hybiau wedi'u lleoli yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Gallwch fynd i'w gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Fel arall, mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid gwledig y Cyngor, Hwb Bach y Wlad yn teithio o gwmpas y Sir yn cynnig cymorth. I gael gwybod ble gallwch ymweld â Hwb Bach y Wlad, ewch i'r wefan.

Os ydych yn chwilio am gymorth, mae eich meddyg teulu Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gael i helpu, neu fel arall gallwch gysylltu â Llesiant Delta ar 0300 333 2222 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth. Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind gael mynediad i'r gwasanaeth drwy ffonio'n uniongyrchol ar 0800 132 737. Os hoffech wybod mwy: https://www.callhelpline.org.uk/

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn effaith hirhoedlog trafferthion iechyd meddwl drwy ddarparu cysylltiadau â chymorth y mae mawr ei angen. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ei gwneud yn haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, rwy'n eich annog i estyn allan at rywun fydd yn gallu helpu”.

Dysgwch ragor am y prosiectau sy'n canolbwyntio ar ieuenctid a gefnogir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  1. Mae Sefydliad Jac Lewis yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant gyda dull wedi'i deilwra ar gyfer pob unigolyn. Sefydliad Jac Lewis (llyw.cymru)
  2. Mae Atal Pobl Ifanc rhag Cyflawni Hunanladdiad PAPYRUS yn wasanaeth atal hunanladdiad cenedlaethol gyda swyddfa yng Nghaerfyrddin. Drwy'r prosiect hwn, mae PAPYRUS yn ymestyn ei wasanaethau drwy ddatblygu a darparu hyfforddiant atal hunanladdiad drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Sir Gaerfyrddin. Atal Pobl Ifanc rhag Cyflawni Hunanladdiad PAPYRUS (llyw.cymru)
  3. Mae Cymdeithas Mamau Plant Awtistig Sir Gaerfyrddin a Cross Hands yn grŵp cymorth a chyfeillgarwch cymunedol i rieni a gofalwyr pobl ifanc ag awtistiaeth neu y credir eu bod nhw ar y sbectrwm. Cymdeithas Mamau Plant Awtistig Caerfyrddin a Cross Hands (llyw.cymru)
  4. Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri yn cefnogi pobl ifanc o bob oed a gallu, mae angen gwneud gwaith uwchraddio a gwelliannau cyffredinol i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i fod yn addas i'r diben. LYCC 2023+ (llyw.cymru)
  5. Mae Grŵp Sgowtiaid 1af Llanelli yn sefydliad datblygu ieuenctid gwerthfawr, bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r angen am welliannau sylweddol i do Neuadd y Sgowtiaid.Adfywio Neuadd y Sgowtiaid (llyw.cymru)
  6. Mae Mess Up the Mess yn cefnogi pobl ifanc i wirfoddoli fel arweinwyr cymheiriaid; byddant yn derbyn cymorth i adeiladu ar eu profiad ac ennill hyfforddiant creadigol a thechnegol achrededig. Prosiect Gwirfoddoli a Hyfforddi (llyw.cymru)
  7. Mae People Speak Up yn elusen gymdeithasol, iechyd meddwl, y celfyddydau, iechyd a llesiant sydd wedi'i lleoli yn Llanelli. Maent yn cysylltu cymunedau, a grwpiau o bob oed, drwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol. Find Our Voice (llyw.cymru)

Darllenwch ragor am yr ystod eang o brosiectau a gefnogir gan y gronfa isod:

  1. Mae Angor - Prosiect Ymgysylltu/Llesiant Cymunedol yn cynorthwyo unigolion a'u teuluoedd i gefnogi eu llesiant ar ôl iddynt gael diagnosis o ganser. Prosiect Ymgysylltu/Llesiant Cymunedol (llyw.cymru
  2. Mae Radio BGM, Radio Ysbyty Tywysog Philip yn darparu llais a chwmnïaeth lleol i gleifion ysbyty, gan fynd i'r afael â materion a digwyddiadau sy'n sylweddol iddynt.
    Radio BGM (llyw.cymru)
  3. Mae prosiect Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi yn mynd i'r afael â'r diffyg trafnidiaeth i breswylwyr gan eu galluogi i wella'u llesiant drwy ddefnyddio gwasanaethau. Driving Forward (llyw.cymru