Sir Gâr yn lansio treial gwefru cerbydau trydan gartref gan ddefnyddio sianeli gwli arloesol
188 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio treial aml-safle o'i ateb a ffefrir ar gyfer gwefru cerbydau trydan gartref, gyda'r nod o alluogi preswylwyr heb leoedd parcio oddi ar y stryd i wefru eu cerbydau trydan yn ddiogel gartref. Mae'r treial yn dilyn astudiaeth helaeth a gynhaliwyd yn 2023, a oedd yn cynnwys safbwyntiau defnyddwyr cerbydau trydan, adrannau mewnol amrywiol, a grwpiau anabledd allweddol, megis y rheiny sy'n cynrychioli pobl ddall a defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae'r treial yn defnyddio system gwli Kerbo Charge—cynnyrch arloesol a gafodd sylw ar Dragons' Den—sy'n cuddio ceblau gwefru mewn sianeli wedi'u gwreiddio yn y palmant, gan atal yr angen am geblau'n llusgo ar draws llwybrau cyhoeddus. Mae'r system yn cynnig ateb diogel, cyfleus ac ymarferol i breswylwyr sydd heb ddreifiau i wefru cerbydau trydan gartref.
Cafodd y ddau safle treial cyntaf eu gosod ar 19 Medi, a disgwylir i'r safleoedd eraill gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref. Bydd hyd at 10 lleoliad yn cael eu cynnwys yn y cam hwn o'r treial, gan olygu mai Cyngor Sir Caerfyrddin fydd y cyntaf yng Nghymru i gynnal treialon ar nifer o safleoedd ar yr un pryd. Bydd y data a'r adborth sy'n cael eu casglu yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut y gellir ymestyn yr atebion hyn ar draws y sir.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru, gan ddefnyddio'r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn, grant sydd wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer seilwaith cerbydau trydan. Dyfernir y cyllid hwn drwy broses ymgeisio genedlaethol gystadleuol ac mae wedi'i neilltuo'n llwyr i gefnogi'r newid i gerbydau trydan.
Mae'r Cyngor hefyd yn archwilio cyfleoedd ariannu pellach i ymestyn y prosiect ac o bosibl profi opsiynau gwefru ychwanegol ar y stryd, gan sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ar flaen y gad o ran hwyluso'r broses o newid i gerbydau trydan.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rydym yn edrych ymlaen at ehangu atebion gwefru cerbydau trydan i fwy o breswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r treial hwn yn rhan allweddol o'n hymdrechion i wneud mabwysiadu cerbydau trydan yn haws ac yn fwy hygyrch i'r rheiny sydd heb leoedd parcio oddi ar y stryd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith ar draws sawl safle."