Paratoi ar gyfer y Gaeaf: Cadwch yn ddiogel ac yn wybodus ar gyfer tymor 2024/25

7 diwrnod yn ôl

Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pob preswylydd i baratoi am heriau tymhorol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau hanfodol. Dros y gaeaf, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gadw'n cymuned yn ddiogel drwy ganolbwyntio ar lwybrau strategol allweddol a sicrhau bod ffyrdd pwysig, yn enwedig y rhai sy'n arwain i ysbytai a chyfleusterau brys, yn cael eu trin gyntaf yn ystod tywydd garw.

Rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn barod ar gyfer amodau gyrru yn y gaeaf. Cynghorir modurwyr i wirio rhagolygon y tywydd, sicrhau bod eu cerbydau yn barod ar gyfer y gaeaf drwy wirio pwysedd teiars, lefelau gwrthrewydd a goleuadau, a chaniatáu amser teithio ychwanegol ar ffyrdd a allai fod yn rhewllyd neu dan eira. Bydd diweddariadau rheolaidd hefyd yn cael eu postio ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae newidiadau bach i'r llwybrau graeanu ers gaeaf diwethaf. Rydym yn annog preswylwyr yn gryf i ymgyfarwyddo â'r diweddariadau hyn er mwyn sicrhau teithio mwy diogel. Bydd ein gwasanaethau graeanu yn cwmpasu'r holl lwybrau blaenoriaeth, gan ganolbwyntio ar ffyrdd allweddol sy'n cysylltu ysbytai, ysgolion a chyfleusterau brys. I weld y llwybrau graeanu ar gyfer y gaeaf hwn ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amodau'r ffyrdd, gall preswylwyr ymweld â'n gwefan i gael mynediad at fap llwybrau. Bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y llwybrau hyn yn helpu i sicrhau teithio mwy diogel i bob modurwr yn ystod tywydd garw.

Yn ogystal â gyrru dros y gaeaf, dylai preswylwyr hefyd fod yn ymwybodol o lifogydd posibl. Anogir perchnogion eiddo sydd mewn perygl o lifogydd i gadw eu stoc eu hunain o fagiau tywod gwag, ynghyd â digon o dywod i lenwi'r bagiau yn ystod adegau lle mae llifogydd yn bosibl. Mae'n bwysig llenwi'r bagiau â thywod a'u selio'n dynn i atal gollyngiadau. Rhowch fagiau tywod mewn patrwm croesgam i greu rhwystrau o amgylch drysau ac ardaloedd agored i ddifrod.

Drwy gymryd y camau rhagweithiol hyn, gallwch helpu i amddiffyn eich cartref a chyfrannu at amodau mwy diogel i chi eich hun ac eraill yn ystod tymor y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

"Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, mae'n hanfodol i'n cymuned gael y wybodaeth ddiweddaraf a bod yn barod am newidiadau tymhorol. Mae ein hymrwymiad i gynnal llwybrau hygyrch yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pawb yn ystod y gaeaf. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau amgylchedd mwy diogel i bawb."

Am fwy o wybodaeth am baratoi ar gyfer y gaeaf, gan gynnwys awgrymiadau gyrru ac adnoddau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ewch i'n gwefan.