Maethu Cymru Sir Gâr yn ymuno â'r Scarlets i godi ymwybyddiaeth o faethu
78 diwrnod yn ôl
I gydnabod ymrwymiad anhygoel gofalwyr maeth y sir, croesawodd y Scarlets deuluoedd maeth Maethu Cymru Sir Gâr i gêm gartref gyntaf y tymor y Scarlets yn erbyn Caerdydd y bu disgwyl mawr amdani.
Mwynhaodd y gofalwyr maeth ddiwrnod allan haeddiannol iawn, ac roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos maethu.
Drwy ei drefniadau cydweithio parhaus â'r Scarlets, roedd gan Maethu Cymru Sir Gâr stondin wybodaeth ym Mhentref Cefnogwyr y Scarlets hefyd, gan roi'r cyfle perffaith i ymgysylltu â'r gymuned leol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd maethu yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Rydym wrth ein bodd ein bod yn cydweithio â'r Scarlets ar gyfer y fenter bwysig hon. Mae maethu'n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu sefydlogrwydd, gofal a chymorth i blant sydd ei angen fwyaf, ac mae'n galonogol gweld cyfranogiad mor gryf gan y gymuned. Gyda'n gilydd, gyda chymorth sefydliadau fel y Scarlets, gallwn godi ymwybyddiaeth ac annog mwy o bobl i ystyried maethu.”
Dywedodd Paul Fisher, Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets:
Mae'n wych i Sefydliad Cymunedol y Scarlets gydnabod a chefnogi sefydliad mor werthfawr â Maethu Cymru Sir Gâr. Mae sefydliadau fel hyn yn cael effaith mor gadarnhaol a gallant wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Roedd yn wych croesawu Maethu Cymru Sir Gâr i'n gêm agoriadol yn erbyn Caerdydd ac edrychwn ymlaen at dyfu ein partneriaeth yn y dyfodol.”
Cadwch lygad am Maethu Cymru Sir Gâr yng ngemau cartref y Scarlets yn y dyfodol i ddysgu mwy am faethu a sut y gallwch helpu i ddarparu cartref diogel a meithringar i blant mewn angen.
Mae Maethu Cymru Sir Gâr wedi cynllunio sawl digwyddiad drwy gydol y tymor, lle byddant yn parhau i dynnu sylw at yr angen am fwy o ofalwyr maeth i gefnogi plant yn Sir Gaerfyrddin. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.
Llun: Riley Sports Photography