Lansio Apêl Teganau Nadolig 2024

6 diwrnod yn ôl

Mae anrhegion newydd ac arian bellach yn cael eu derbyn ar gyfer Apêl Teganau Nadolig Cyngor Sir Caerfyrddin 2024.

Mae ein Hapêl Teganau Nadolig blynyddol yn helpu cannoedd o deuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion ar gyfer eu plant.

Ewch i'r dudalen Newyddion ar wefan y Cyngor i weld rhestr lawn o'r holl fannau casglu.

Dosbarthwyd dros 9,300 o anrhegion i 1,550 o blant ar ddiwedd yr apêl y llynedd, gan ddarparu cymorth gwerthfawr i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol.

Ar gyfer yr Apêl Teganau Nadolig eleni rydym yn derbyn eitemau, boed hynny'n gemau, eitemau celf a chrefft neu bethau ymolchi i bob oedran, ar gyfer plant o 18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau, a hynny yn un o nifer o fannau casglu o amgylch y sir. Yn anffodus, ni all yr apêl dderbyn rhoddion ail-law.

Mae'r gwaith o nodi'r teuluoedd a'r plant sydd â'r angen mwyaf am gymorth gan yr Apêl Teganau Nadolig yn cael ei wneud gan ysgolion, canolfannau teulu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid. Yna bydd staff y Cyngor yn dosbarthu'r teganau yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae'r pwysau o brynu anrhegion i'ch plant eu hagor ar Ddydd Nadolig yn bwysau gwirioneddol i lawer o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yng nghanol yr argyfwng costau byw.

Os ydych yn gallu cefnogi ein Hapêl Teganau Nadolig eleni, drwy roi arian inni brynu anrhegion neu brynu anrheg ychwanegol ar gyfer ein Hapêl, byddem yn gwerthfawrogi eich bod yn gwneud hynny. Er bod y Nadolig yn adeg arbennig iawn o'r flwyddyn, gall hefyd ddod â phwysau ariannol ychwanegol i lawer o deuluoedd."

Sefydlwyd Apêl Teganau Nadolig Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2011 ac mae'n fenter leol sy'n darparu anrhegion Nadolig i deuluoedd mewn angen. Mae llawer o bobl yn methu fforddio prynu anrhegion neu deganau i'w plant, ac efallai y byddant yn troi at fenthycwyr didrwydded mewn anobaith. Mae'r Apêl Teganau Nadolig wedi sicrhau bod plant lleol, a fyddai wedi cael dim neu ychydig iawn fel arall, yn cael anrheg adeg y Nadolig.

Gallwch roi rhoddion ariannol ar-lein. Os hoffech roi arian parod neu siec, ffoniwch 01267 246504.

Dyma restr lawn o'r holl fannau casglu, a bydd rhagor o leoliadau'n cael eu hychwanegu at y rhestr ar ôl iddynt gael eu cadarnhau:

Caerfyrddin:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Heol y Gwyddau. SA31 1GA
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Neuadd y Sir, SA31 1JP
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Tesco, Lôn Morfa, SA31 3AX
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
    Dydd Sul, 10am - 4pm.
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan. SA31 3NQ     
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 6.30am - 9.30pm
    Dydd Sadwrn a dydd Sul, 8am - 6pm

Llanelli:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney. SA15 3TR      
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Tesco, Parc Trostre, SA14 9UY    
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
    Dydd Sul, 10am - 4pm.

 Dyffryn Aman:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei. SA18 3BS   
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Canolfan Gymunedol Cwmaman, Y Stryd Fawr, Glanaman. SA18 1DX     
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 10am - 4pm

Llandeilo/Llanymddyfri:

  • Hengwrt (Menter Dinefwr) 8, Stryd Caerfyrddin. SA19 6AE          
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10am - 4.30pm
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri, Gerwyn House, Sgwâr y Farchnad.  SA20 0AB
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5.30pm (ond 9am - 4pm yn ystod gwyliau ysgol)

Sanclêr/Castellnewydd Emlyn:

  • Canolfan Hamdden Sanclêr, Heol yr Orsaf. SA33 4BT
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 8am - 9.30pm
    Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 8am – 2pm
  • Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, SA38 9LN        
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 7.30am - 9pm
    Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 7.30am – 2pm

Cydweli:

  • Burns, Siop Fferm Parc y Bocs, Heol Caerfyrddin.  SA17 5AB           
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 9am - 5pm
    Dydd Sul, 10am - 4pm

*Bydd Hwb Bach y Wlad hefyd yn derbyn rhoddion. Gallwch weld pryd bydd yn ymweld â thref yn eich ardal chi drwy edrych ar yr amserlen yma.