Hwyl hanner tymor i'r teulu cyfan yn Sir Gâr
69 diwrnod yn ôl
Mae llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud yn Sir Gâr yr hanner tymor hwn, gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael ledled y sir.
Mae llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal gweithgareddau i oedolion a phlant o bob oed yn ystod hanner tymor gan gynnwys Lego, gwneud gemwaith, argraffu addurniadau Calan Gaeaf 3D, amser stori, crefftau a llawer mwy! Ewch i Eventbrite i gael rhagor o fanylion ac i archebu lle.
Mae Amgueddfa Sir Gâr yn cynnig gweithgareddau hwyl i'r teulu drwy gydol hanner tymor. Cymerwch ran yn y Llwybr Diod Hud, helfa iasol o ddydd Sadwrn 26 Hydref tan ddydd Sul 3 Tachwedd neu Dirgelwch yn yr Amgueddfa sy'n cynnig cyfle i deuluoedd fod yn dditectifs a datrys trosedd ryfedd ddydd Mercher 30 Hydref (4:30pm-5:30pm a 6pm-7pm). Mae crefftau Calan Gaeaf am ddim hefyd ar gael yn Amgueddfa Sir Gâr ddydd Iau 31 Hydref.
Bydd Digwyddiad Calan Gaeaf 'Sbwci' yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Parc Howard ar 26 Hydref sy'n cynnwys dangosiad o'r ffilm ParaNorman am 12:30pm a chrefftau i blant 5+ oed a llwybr Calan Gaeaf am £4 y plentyn yn unig.
Ewch i Caban Pentywyn am noson gwis ar 25 Hydref rhwng 7pm a 9pm neu ewch i'r cwrs golff gwallgof 12 twll newydd sy'n cynnig hwyl i bobl o bob oedran a phob lefel sgiliau. Te parti Calan Gaeaf i blant 3pm-5pm 31 Hydref. 30 Hydref Datrys Dirgelwch Llofruddiaeth 7pm-9pm.
Cynhelir digwyddiad Calan Gaeaf yng Nghlwb Rygbi New Dock Stars ddydd Sadwrn 26 Hydref a bydd yn cynnwys bwffe, raffl a disgo rhwng 6pm a 9pm. Pris y tocynnau yw £5 y pen ac maent ar gael o'r cabanau.
Mae gan theatrau Sir Gâr sioeau sy'n addas i bawb gan gynnwys Welsh Wrestling yn y Lyric, Caerfyrddin ddydd Sadwrn 26 Hydref, Romeo a Juliet gyda Ballet Cymru ddydd Sul 27 Hydref a The Welsh Dragon nos Fawrth 29 Hydref a The Addams Family ddydd Iau 31 Hydref yn Ffwrnes, Llanelli.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rwy'n falch iawn fod gan lyfrgelloedd, theatrau ac amgueddfeydd Sir Gâr ystod mor eang o bethau rhad ac am ddim a chost isel i'w gwneud yn ystod hanner tymor mis Hydref i blant o bob oed, i deuluoedd ac i oedolion.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gweithgareddau sydd ar gael ar wefan Darganfod Sir Gâr, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bethau i'w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw ledled y sir megis teithiau cerdded i bob gallu, traethau hardd, parciau gwledig a llawer mwy.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o bethau sydd i'w gwneud yn ystod hanner tymor mis Hydref yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.