Gwaith ar y gweill ar Gynllun Cwlfer Heol y Fferi yng Nghydweli

5 diwrnod yn ôl

Mae gwaith ar gynllun Cwlfer Heol y Fferi yng Nghydweli ar y gweill, ac mae'r contractwyr GD Harries yn gwneud cynnydd sylweddol. Mae clos gwaith wedi'i sefydlu ac mae'r gwaith cwlferu yn y rhan i lawr yr afon yn agosáu at gael ei gwblhau.

Wrth i'r prosiect symud yn ei flaen, bydd cam nesaf y gwaith yn canolbwyntio ar y darn ger y briffordd. Er y bydd y cam hwn yn achosi rhywfaint o aflonyddwch, ni fydd angen cau'r ffordd yn llwyr. Bydd traffig yn parhau i lifo wrth weithredu system goleuadau traffig. Bydd y goleuadau yn cynnwys swyddogaeth oruwchreoli er diogelwch cerddwyr, ac i leihau tagfeydd ymhellach, bydd staff yn bresennol yn ystod oriau brig.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Rwy'n falch o roi gwybod bod gwaith uwchraddio draenio wedi dechrau ar Heol y Fferi, Cydweli er mwyn rheoli'r perygl o lifogydd yn yr ardal yn well.

Mae'r Cyngor Sir yn deall pwysigrwydd lleihau anghyfleustra i'r ardal ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned wrth i ni weithio i wella'r seilwaith llifogydd lleol."

Mae prosiect Cynllun Cwlfer Heol y Fferi yn mynd rhagddo yn unol â'r amserlen, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau mis Rhagfyr 2024.