Gwahodd preswylwyr Sir Gâr i ddweud eu dweud ar gynwysyddion ailgylchu newydd

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd preswylwyr i gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu i helpu gyda dyfodol ailgylchu yn y sir. Fel rhan o'r newidiadau casglu gwastraff sydd ar ddod yn 2026, mae'r Cyngor yn gofyn am fewnbwn ac adborth ar y mathau o gynwysyddion a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanu deunyddiau ailgylchu gartref.

Nod y newidiadau hyn yw gwella cyfraddau ailgylchu ac effeithlonrwydd drwy gyflwyno cynwysyddion ar wahân ar gyfer gwahanol ddeunyddiau. Bydd y dull hwn yn helpu i leihau achosion o halogi, cynyddu'r ystod o ddeunyddiau y gellir eu casglu, a gwneud ailgylchu'n haws ac yn fwy effeithiol i aelwydydd.

Er mwyn sicrhau bod y cynwysyddion a ddewiswyd yn addas ar gyfer anghenion preswylwyr, bydd swyddogion y Cyngor ar gael mewn gwahanol leoliadau Hwb ledled y sir. Bydd preswylwyr yn cael cyfle i adolygu a rhoi adborth ar y bagiau ailgylchu polypropylen arfaethedig, sef yr opsiwn a ffefrir oherwydd eu hyblygrwydd, cost-effeithiolrwydd, ac ymarferoldeb ar gyfer defnydd ymyl y ffordd.

Dyddiadau a Lleoliadau Ymgynghori:

  • Dydd Mawrth, 22 Hydref: Hwb Caerfyrddin (9am - 2:30pm)
  • Dydd Mercher, 23 Hydref: Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf (10am - 2pm) – Stryd y Farchnad, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0QB
  • Dydd Gwener, 25 Hydref: Neuadd Goffa Talacharn (10am - 3pm) – Clifton Street, Talacharn, SA33 4QG
  • Dydd Mawrth, 29 Hydref: Hwb Caerfyrddin (9am - 2:30pm)
  • Dydd Iau, 31 Hydref: Clwb Rygbi Llanybydder (10am - 3pm) – Iard yr Hen Orsaf, Llanybydder, SA40 9XX
  • Dydd Gwener, 1 Tachwedd: WMC Cross Hands (10am - 3pm) – 41 Heol Llandeilo, Cross Hands, Tymbl Uchaf, SA14 6RD
  • Dydd Gwener, 1 Tachwedd: Hwb Rhydaman (9am - 2:30pm)
  • Dydd Gwener, 1 Tachwedd: Hwb Llanelli (9am - 2:30pm)
  • Dydd Mawrth, 5 Tachwedd: Hwb Caerfyrddin (9am - 2:30pm)
  • Dydd Mercher, 6 Tachwedd: Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn (10am - 2pm) – Sgwâr y Farchnad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9AE
  • Dydd Iau, 7 Tachwedd: Neuadd Ddinesig Llandeilo (10am - 3pm) – 17 Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW
  • Dydd Gwener, 8 Tachwedd: Canolfan Gymunedol Cwmaman (10am - 3pm) – Oddi ar Heol Cwmaman yng Nglanaman, y tu ôl i Gapel Scion
  • Dydd Gwener, 8 Tachwedd: Hwb Rhydaman (9am - 2:30pm)
  • Dydd Gwener, 8 Tachwedd: Hwb Llanelli (9am - 2:30pm)
  • Dydd Llun, 11 Tachwedd: Canolfan y Dywysoges Gwenllian Cydweli (10am - 3pm)– Hillfield Villas, Cydweli, SA17 4UL
  • Dydd Gwener, 15 Tachwedd: Hwb Rhydaman (9am – 2:30pm)
  • Dydd Gwener, 15 Tachwedd: Hwb Llanelli (9am – 2:30pm)
  • Dydd Mawrth, 19 Tachwedd: Canolfan Ieuenctid a Chymuned Llanymddyfri (10am - 3pm) – Tŷ Gerwyn, 19 Sgwâr y Farchnad, Llanymddyfri, SA20 0AB

Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr weld y cynwysyddion, codi unrhyw bryderon, ac awgrymu gwelliannau i'r opsiynau sy'n cael eu hystyried. Bydd adborth gan y cyhoedd yn helpu'r Cyngor i baratoi deunydd darllen, a deunyddiau cyfathrebu sy'n hwyluso gweithredu'r newidiadau gwastraff hyn ar draws yr awdurdod. Rydym yn annog pob preswylydd i fynychu eu digwyddiad ymgysylltu Hwb agosaf a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i greu system ailgylchu sy'n gweithio i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Credwn fod siarad â'n preswylwyr yn hollbwysig wrth greu system ailgylchu sy'n cwrdd â'u hanghenion. Bydd eich adborth nid yn unig yn dylanwadu ar y mathau o gynwysyddion y byddwn yn eu defnyddio, bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn creu proses ailgylchu effeithlon ac effeithiol y bydd pawb yn Sir Gâr yn elwa ohoni."