Grŵp Gweithredu Dros yr Hinsawdd Sir Gaerfyrddin yn cael ei gydnabod am Waith Arloesol o ran Addysg Newid yn yr Hinsawdd gan Grŵp Her Sero Net Cymru

1 diwrnod yn ôl

Mae portffolio Addysg Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei gydnabod yn swyddogol yn nogfennau ymchwil Grŵp Her Sero Net Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'r adroddiad cynhwysfawr hwn yn amlinellu llwybr ar gyfer addysg, swyddi ac ymgysylltu cymunedol i fynd i'r afael â’r Argyfwng Hinsawdd a Natur yn effeithiol, gan gynnwys crynodeb o gamau gweithredu angenrheidiol sy'n ofynnol ledled Cymru erbyn 2035.

Cafodd Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru ei sefydlu ym mis Ionawr 2023 fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Nod y grŵp yw archwilio llwybrau posibl i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2035, gan dynnu sylw at rôl hollbwysig addysg yn y trawsnewidiad hwn.

Mae'r Grŵp Gweithredu Dros yr Hinsawdd, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2021, yn fenter arloesol a ffurfiwyd yn dilyn Rhaglen Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang Walk the Global Walk. Mae'r grŵp hwn yn grymuso pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin i fod yn gatalyddion ar gyfer newid trwy eu cyfraniad at weithredu er budd yr hinsawdd a'u hymdrechion cynaliadwyedd. Gwahoddir disgyblion o ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin i ethol cynrychiolwyr i'r Grŵp, sy'n cyfarfod bob chwarter i drafod materion newid yn yr hinsawdd, rhoi argymhellion o'u Maniffesto Gweithredu Dros yr Hinsawdd ar waith, a chysylltu ag awdurdodau lleol, busnesau a sefydliadau. Mae'r cyfarfodydd yn meithrin llwyfan ar gyfer newid cadarnhaol a dinasyddiaeth weithredol, gan greu cymuned sy'n cael ei huno gan y weledigaeth a rennir o ran diogelu'r blaned.

Mae'r Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd yn rhan annatod o sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy'n gysylltiedig â gweithredu er budd yr hinsawdd. Cafodd y ddogfen gydweithredol hon ei diwygio a'i hail-lansio ym mis Mehefin 2024, gan adlewyrchu dyheadau ac argymhellion aelodau'r Grŵp. Mae'r Maniffesto yn grymuso disgyblion i eirioli dros arferion cynaliadwy yn eu hysgolion a'u cymunedau, gan gynyddu eu rhan mewn llywodraethu lleol ymhellach.

Mae sylwadau gan ddisgyblion yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol y Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd. Nododd un myfyriwr:

Rwy'n hoff iawn o ba mor gynhwysol yw'r cyfarfodydd, mae gan bob un ohonom weledigaeth gyffredin a diddordeb mewn diogelu'r blaned a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth."

Ychwanegodd myfyriwr arall:

Rydym yn grŵp o ddisgyblion yn dod at ei gilydd i drafod syniadau ar sut y gallwn nid yn unig helpu ein cymunedau ond hefyd y byd.”

Mae'r sylwadau hyn yn dangos sut mae'r Grŵp yn meithrin amgylchedd cefnogol sy'n lleddfu pryder ynghylch yr hinsawdd trwy hyrwyddo atebion rhagweithiol ac ymgysylltu â'r gymuned.

Mae cydnabyddiaeth y Grŵp Gweithredu Dros yr Hinsawdd gan Grŵp Her Sero Net Cymru yn atgyfnerthu pwysigrwydd y model hwn wrth feithrin ymgysylltiad pobl ifanc â gweithredu er budd yr Hinsawdd. Mae'r adroddiad yn argymell bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu fframwaith tebyg i rymuso pobl ifanc a mynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd a Natur yn effeithiol. Mae Tîm Gwella Ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan hanfodol o ran gyrru'r agenda hon. Mae'r Ymgynghorydd Cymorth Addysg Cysylltiol ar gyfer Cynaliadwyedd yn cydlynu'r Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd, gan ddarparu diweddariadau hanfodol ar faterion lleol, adnoddau hyfforddiant, a chyfleoedd dysgu proffesiynol i addysgwyr a myfyrwyr. Mae'r cymorth pwrpasol hwn yn sicrhau bod y Grŵp yn parhau i ffynnu a gwneud cyfraniadau ystyrlon i nodau cynaliadwyedd lleol a chenedlaethol.

Mae Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gaerfyrddin yn enghraifft o bŵer mentrau dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer ysgogi newid cadarnhaol. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a meithrin cenedlaethau o stiwardiaid amgylcheddol yn y dyfodol, mae'r gydnabyddiaeth gan Grŵp Her Sero Net Cymru yn dyst i rôl hanfodol y Grŵp wrth lunio dyfodol cynaliadwy i bawb.

Mae'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned wrth fynd i'r afael â heriau o ran yr hinsawdd:

"Wrth i ni wynebu heriau enbyd newid yn yr hinsawdd, mae'n hanfodol ein bod yn grymuso ein cymunedau, yn enwedig ein pobl ifanc, i chwarae rôl weithredol o ran ymdrechion cynaliadwyedd. Drwy feithrin addysg, hyrwyddo ymwybyddiaeth, ac annog cydweithio ymhlith trigolion, busnesau ac awdurdodau lleol, gallwn ysgogi newid ystyrlon. Gyda'n gilydd, mae gennym y pŵer i greu dyfodol mwy cynaliadwy, gan sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod gan hefyd fynd i'r afael ag anghenion brys ein cymunedau heddiw."