Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

13 diwrnod yn ôl

Mae prosiect ar y gweill lle defnyddir llysiau o fferm sirol yn Sir Gaerfyrddin i fwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos.

Mae llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i ddisgyblion fel rhan o giniawau thema yn ystod eu diwrnod ysgol.

Mae'r cynllun hwn yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, Adran Arlwyo Cyngor Sir Caerfyrddin a menter o'r enw Prosiect Datblygu Systemau Bwyd - prosiect sy’n cael ei arwain gan bartneriaid o Bwyd Sir Gâr sy'n edrych ar sut rydym ni’n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy ledled Sir Gâr.

Ar ôl cymryd drosodd y gwaith o redeg Bremenda Isaf o ddydd i ddydd, fferm Gyngor can erw yn Llanarthne, mae tîm y prosiect yn treialu ffyrdd newydd o gael llysiau lleol i blatiau ysgolion cynradd a chartrefi gofal y sir. Mae’r datblygiad cyffrous hwn gydag Ysgol Bro Dinefwr yn rhan o’r gwaith hwnnw.

Gan ddefnyddio dulliau ffermio natur-gyfeillgar, mae’r tîm yn Bremenda Isaf yn tyfu amrywiaeth o lysiau fydd yn cael eu cynnwys mewn prydau bwyd ysgolion a chartrefi gofal, yn sicrhau bod trigolion ifancaf a hynaf y sir yn cael budd o gynnyrch ffres, lleol o safon uchel. Mae’r cnydau yn amrywio o giwcymbyr i foron a sbrowts i bwmpenni gyda’r llysiau canlynol yn gwneud eu ffordd i Ysgol Bro Dinefwr, a fydd yn golygu bod dros 40kg o lysiau lleol yn cael eu gweini ar blatiau ysgol ar y diwrnod cyntaf:

  • Ciwcymbr
  • Ffenigl
  • Ffa Dringo
  • Brocoli Egin-Porffor
  • Tomatos
  • Gorfetys Enfys
  • Betys
Rydym yn falch iawn o weld y cnydau cyntaf o fferm sirol Bremenda Isaf ar  blatiau myfyrwyr Bro Dinefwr,”

meddai Chris Pugh, Uwch-reolwr Arlwyo Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae defnyddio cynnyrch ffres o ansawdd uchel a dyfwyd yn lleol, ar ein bwydlen yn gam cyntaf cyffrous ym mhrosiect datblygu systemau bwyd ehangach yr adran arlwyo. Mae’n Cogyddion yn edrych ymlaen at ddangos sut y gellir hyrwyddo cynnyrch lleol fel rhan o amrywiaeth o brydau cyffrous gyda blas o bedwar ban byd."

Ychwanega Alex Cook, Rheolwr y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd:

Mae datblygu a dylunio bwydlenni yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu bwyd cynaliadwy, lleol i’r plât cyhoeddus. Trwy gyflogi tyfwyr yn uniongyrchol i gynhyrchu'r bwyd, dyma ddatrysiad arloesol a chydweithredol sy’n dangos effaith cyfathrebu da rhwng y galw, y cyflenwad a’r dosbarthu.  Dyma gam gwych ymlaen, gyda phartneriaid yn cydweithio tuag at greu Systemau Bwyd Sir Gaerfyrddin sy'n cynhyrchu, yn darparu ac yn hyrwyddo bwyd cynaliadwy ac iach ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol.”

Mae’r fferm hefyd yn tyfu grawn wrth iddi roi’i bryd ar ddychwelyd i ffyrdd traddodiadol o ffermio cymysg sydd yn garedig i natur ac yn cymryd i ystyriaeth dreftadaeth y fferm a’r diwylliant bwyd lleol.  Mae hyn wedi cael ei ystyried mewn mwy o fanylder fel rhan o’r Prosiect Treftadaeth sydd wedi bod yn annog pobl leol i feddwl am y fferm, y cynnyrch a’r tir, ac yn gofyn i gyfranogwyr ymateb i sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo trwy gelf, barddoniaeth a chân.

Yn ogystal â threialu’r prosiect arloesol yn Bremenda Isaf, mae’r prosiect hefyd yn gweithio gyda thîm o ddeietegwyr ym` Mwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu sgiliau coginio a maeth pobl, tra’n partneru gyda Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cysylltiadau cymunedol trwy fwyd ym mhob cornel o’r sir.

Meddai’r Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol Cyngor Sir Gâr:

Mae'n wych gweld y prosiect hwn yn cyflawni ei dargedau gyda bwyd ffres, lleol a hynod faethlon yn cael ei gynhyrchu'n effeithlon yma yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer ein plant ysgol. Mae gwaith Systemau Bwyd yn cwmpasu llawer o’n hamcanion strategol fel Cyngor, popeth o’r Economi Wledig a’r Amgylchedd i Iechyd Cymunedol a Threchu Tlodi. Mwy o Ffermwyr, Mwy o Fwyd, Mwy o Wytnwch.”

Mae’r prosiect Datblygu Systemau Bwyd wedi ariannu datblygu gwefan Bwyd Sir Gâr hefyd i godi ymwybyddiaeth o waith Bwyd Sir Gâr ac i gael cymaint o bobl o’r sir ag sy’n bosib ynghlwm wrth adeiladu dyfodol bwyd gwell i ni gyd.

Mae Bwyd Sir Gâr hefyd yn rhan o brosiect cenedlaethol, sef Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.  Bydd llysiau o Bremenda Isaf yn cael eu cyflenwi i ysgolion ar draws chwe awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y prosiect. Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r llysiau sy’n cael eu tyfu fel rhan o Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn ystod Pythefnos Bwyd Prydeinig, sef Medi’r 10fed – Hydref 6ed.

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Castell Howell,  Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd – yn cynnwys y tîm yn fferm Bremenda Isaf -  mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn ciniawau ysgol.  Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod wrth gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl.

Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ynghyd â’r prosiect peilot sy’n cael ei ddatblygu gyda Ysgol Bro Dinefwr a fferm Bremenda Isaf, ill dau y potensial nid yn unig i gynyddu’r farchnad leol gan effeithio’n bositif ar yr economi leol, ond hefyd y gallu i helpu plant i gysylltu â’u bwyd ac i ddeall yn well o ble daw eu bwyd.