Erlyn gweithredwyr fferm am droseddau difrifol mewn perthynas â lles anifeiliaid yn Fferm Cildywyll
71 diwrnod yn ôl
Mae'r awdurdodau wedi llwyddo i erlyn Dewi Thomas, Dyfrig Thomas ac Eirlys Thomas, gweithredwyr Fferm Cildywyll, Llanddowror, Caerfyrddin, am achosion difrifol o dorri cyfreithiau lles anifeiliaid. Mae'r erlyniad hwn yn dilyn collfarn flaenorol, lle cafodd Eirlys Thomas a'i mab, Dewi Thomas, eu herlyn ar 24 Chwefror 2023 am achosi i dda byw ddioddef yn ddiangen, tra bod Dyfrig Thomas wedi derbyn rhybudd ffurfiol.
Deilliodd yr achos diweddaraf o ymchwiliad ym mis Mai 2023 gan yr Adain Iechyd Anifeiliaid, mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Heddlu Dyfed-Powys, ar ôl derbyn cwynion dienw ynghylch cyflwr anifeiliaid ar y fferm.
Ar 31 Mai 2023, archwiliodd swyddogion iechyd anifeiliaid, milfeddyg o APHA a heddwas o Heddlu Dyfed-Powys Fferm Cildywyll. Datgelodd yr archwiliadau olygfeydd annifyr o esgeulustod, gan gynnwys cŵn a chŵn bach yn crwydro'n rhydd, heb unrhyw reolaeth dros fridio, da byw yn byw ymhlith carcasau, a gwartheg a moch difrifol wael. Cafwyd hyd i un fuwch â llygad chwyddedig heb ei drin, tra bod nifer o gŵn, gan gynnwys Cocker Spaniel ag asennau yn ymwthio allan, yn byw mewn amodau peryglus, ac yn gwledda ar garcasau oedd yn pydru, heb ddeiet addas, dŵr na lle digonol i fyw.
Mewn ysgubor, gwelodd yr arolygwyr garcasau yn pydru ochr yn ochr ag anifeiliaid byw, a oedd yn pwysleisio'r gofal annigonol. Nid oedd y teulu Thomas, a oedd yn gyfrifol am weithrediadau'r fferm, wedi ceisio gofal milfeddygol i lawer o'r anifeiliaid, gan gynnwys cŵn bach heb eu brechu ac anifeiliaid oedd yn dioddef o salwch heb ei drin.
O ganlyniad i'r darganfyddiadau hyn, rhoddwyd hysbysiadau gwella i'r teulu Thomas ac roedd yn ofynnol iddynt fynd i'r afael ag anghenion lles eu hanifeiliaid ar unwaith. Cafodd moch, cŵn a chŵn bach eu symud o'r safle am resymau lles. Fodd bynnag, datgelodd archwiliadau pellach ddiffyg cydymffurfiaeth parhaus. Datgelodd ymweliadau dilynol ragor o anifeiliaid wedi'u hesgeuluso, gan gynnwys defaid ag anafiadau heb eu trin wedi ymosodiad gan gi, yn ogystal ag anghysondebau yng nghofnodion y fferm o ran marwolaethau a symudiadau da byw.
Rhwng Chwefror a Medi 2023, cofnodwyd 144 o farwolaethau gwartheg ar y fferm, gyda 32 marwolaeth ddiesboniad, a oedd yn codi pryderon pellach am reolaeth y da byw.
Yn ystod yr achos llys, dywedodd y Barnwr DJ Layton:
Mae hanes yn dangos, dros y blynyddoedd diwethaf, fod y teulu wedi esgeuluso anifeiliaid, o foch i gŵn i ddefaid.”
Dywedodd hefyd:
Dyma sefyllfa a arweiniodd at orchymyn dedfryd ohiriedig i'r fam-gu a'r tad, sydd mor agos i'r carchar ag y gallwch ei gael, a chafodd Dyfrig Thomas rybudd, oherwydd ei oedran yn ôl pob tebyg, a chyn gynted ag y gwnaed y gorchymyn, parhaodd y sefyllfa, gyda chŵn yn agored i beryglon a heb welyau addas, hwch heb ddŵr, sef angen sylfaenol, a chŵn a chŵn bach yn bwyta carcasau anifeiliaid, moch yn bwyta carcasau...mae'n frawychus."
Dedfrydwyd Dewi Thomas i orchymyn cymunedol 12 mis gyda 150 awr o waith di-dâl a chafodd ei wahardd rhag cadw da byw am 5 mlynedd. Derbyniodd Eirlys Thomas orchymyn cymunedol 12 mis a chafodd ei gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 5 mlynedd, tra bod Dyfrig Thomas wedi derbyn gorchymyn cymunedol 6 mis a chafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 2 flynedd. Gorchmynnwyd i'r tri dalu cyfanswm o £19,275.10 mewn costau, ac atafaelwyd da byw o dan adran 34 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Fel rhan o'r camau cyfreithiol, symudwyd nifer o anifeiliaid o'r fferm a'u rhoi yng ngofal gwasanaethau achub lleol. Mae'r achos yn amlygu ymrwymiad parhaus yr Adain Iechyd Anifeiliaid i sicrhau bod sylw yn cael ei roi i greulondeb ac esgeulustod anifeiliaid a bod troseddwyr yn cael eu herlyn i raddau llawnaf y gyfraith.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r achos hwn yn dangos ein bod yn cymryd troseddau lles anifeiliaid o ddifrif. Roedd yr amodau a ddatgelwyd ar Fferm Cildywyll yn wirioneddol frawychus, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn atebol am hynny. Mae lles anifeiliaid yn brif flaenoriaeth i ni a byddwn yn parhau i weithio i atal dioddefaint a diogelu llesiant da byw ledled Sir Gaerfyrddin.”
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am bwysleisio bod ei Swyddogion Iechyd Anifeiliaid ar gael hefyd i gefnogi ffermwyr a'u bod yn gallu cynnig cymorth i'r rhai sy'n wynebu anawsterau o ran gofalu am eu da byw. I gysylltu â'n Tîm Iechyd Anifeiliaid, ffoniwch 01267 234567 neu e-bostiwch cccanimalhealth@sirgar.gov.uk.