Dŵr | Still Waters: Hanes Brad ac Achubiaeth
66 diwrnod yn ôl
Mae S4C a Channel 4 yn falch o gyhoeddi'r gyfres Dŵr | Still Waters, sef dilyniant i raglen Y Golau | The Light in the Hall. Disgwylir i'r gwaith cynhyrchu ddechrau yn gynnar ym mis Hydref ym mhentref prydferth Llanemlyn, sydd wedi'i leoli mewn cwm godidog.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio'n agos gyda sgowtiaid lleoliad a thimau cynhyrchu i gefnogi ffilmio'r gyfres. Nod y cydweithio yw sicrhau bod y gymuned leol yn elwa ar y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil y ffilmio, gan gynnwys ffioedd lleoliad, llety, a mwy o wariant mewn siopau a bwytai lleol.
Mae'r ddrama newydd yn archwilio effaith hanesyddol cronfa ddŵr Nantwen a foddodd dir amaethyddol hynafol gan symud teuluoedd trwy brynu gorfodol. Mae'r digwyddiad hwn yn adlewyrchu boddi dadleuol Cwm Tryweryn ac yn tynnu sylw at yr effeithiau hirdymor ar y gymuned leol.
Yn y 1990au, cafodd cynlluniau i ehangu'r gronfa ddŵr wrthwynebiad sylweddol, gan arwain at wrthdaro a rhannu teuluoedd a ffrindiau. Gyda chynlluniau newydd ar gyfer ehangu bellach yn dod i'r amlwg, mae trydedd genhedlaeth yn paratoi i wynebu'r materion hanesyddol hyn unwaith eto.
Mae Dŵr | Still Waters yn cynnwys cast ardderchog, gan gynnwys Sian Reese-Williams, Mark Lewis-Jones, a Robert Glenister. Cafodd tymor cyntaf Y Golau ei ddangos am y tro cyntaf ar S4C ym mis Mai 2022 a bu’n llwyddiant ysgubol, gyda fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu ar Channel 4, yn cynnwys Joanna Scanlan, Alexandra Roach, ac Iwan Rheon.
Rhoddodd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei sylwadau ar arwyddocâd y gyfres:
Rydym wrth ein boddau i groesawu Dŵr | Still Waters yn ôl i Sir Gaerfyrddin. Mae'r gyfres hon nid yn unig yn tynnu sylw at dirweddau trawiadol Sir Gaerfyrddin ond mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i'n heconomi leol. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi'r tîm cynhyrchu a sicrhau bod ein cymuned yn elwa ar y ffilmio wrth arddangos y straeon cyfoethog sydd gan ein rhanbarth i'w cynnig.”
Er gall y ffilmio achosi rhywfaint o darfu dros dro ar fynediad y cyhoedd yn yr ardal, gwneir pob ymdrech i leihau'r tarfu cymaint â phosibl. Bydd busnesau lleol yn parhau ar agor, a bydd rheoli traffig yn cael ei roi ar waith i hwyluso gwaith yn ystod cyfnod ffilmio'r gyfres.