Does dim lle i droseddau casineb yn ein cymunedau, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i rannu'r neges bod gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu cynnwys a'u parchu.”

69 diwrnod yn ôl

Ddydd Gwener, 18 Hydref, cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu hynod lwyddiannus ym Mharc y Scarlets, fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, cyn y gêm rhwng y Scarlets a'r Bulls. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Ffanbarth cyn y gêm, yn ymdrech gydweithredol i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, gan gynnig gwybodaeth hanfodol i'r gymuned am sut i geisio cymorth a rhoi gwybod am ddigwyddiadau.

Roedd cynrychiolwyr o Cymorth i Ddioddefwyr, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys, a thîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin yn bresennol i ymgysylltu â'r cyhoedd. Cafodd y rhai oedd yn bresennol eu hannog i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau ac ysgrifennu negeseuon "gobaith nid casineb" ar faneri, a fydd yn cael eu harddangos ym Mharc y Scarlets fel arwydd o undod y gymuned yn erbyn troseddau casineb.

Cafodd aelodau'r gymuned leol gyfle i ddysgu mwy am effeithiau niweidiol troseddau casineb a sut y gellir rhoi gwybod amdanynt. Roedd staff wrth law i siarad â'r rhai yr effeithiwyd arnynt, gan ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol ar y broses rhoi gwybod.

Canmolodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Gydlyniant Cymunedol, y digwyddiad, gan ddweud:

Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn cysylltu â mater mor bwysig. Does dim lle i droseddau casineb yn ein cymunedau, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i rannu'r neges bod gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu cynnwys a'u parchu.”

Ychwanegodd Becca Rosenthal, Rheolwr Gweithrediadau Cymorth i Ddioddefwyr:

Drwy godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth uniongyrchol, rydym yn gobeithio annog mwy o bobl sy'n dioddef troseddau casineb neu'n dyst iddynt i roi gwybod amdanynt. Mae'r negeseuon o obaith sy'n cael eu harddangos ym Mharc y Scarlets yn dangos bod ein cymuned yn sefyll yn gadarn yn erbyn casineb.”

I ddangos undod, darparwyd tocynnau am ddim i aelodau'r gymuned, gan hyrwyddo cynwysoldeb ac ymgysylltu ymhellach yn ystod y digwyddiad ystyrlon hwn.

I unrhyw un sy'n ceisio mwy o wybodaeth am droseddau casineb neu sut i roi gwybod amdanynt, mae canllawiau ar gael ar wefan Cymorth i Ddioddefwyr neu drwy gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu drwy eu system rhoi gwybod ar-lein.

Mae troseddau casineb yn weithredoedd treisgar, aflonyddu, neu gam-drin sy'n cael eu hysgogi gan ragfarn yn erbyn hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Os yw hyn wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, peidiwch ag oedi cyn gofyn am help a chefnogaeth.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am droseddau casineb a rhoi gwybod amdanynt, ewch i: