Dathlu Chwarae: Diwrnodau Hwyl i'r Teulu yn Dod â Llawenydd i Gymunedau Lleol

1 diwrnod yn ôl

Dros yr Haf eleni, cynhaliodd y Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gofal Plant a Chwarae gyfres o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd ledled y sir i ddathlu'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae Diwrnod Chwarae yn ymgyrch sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.

Cynhaliwyd tri digwyddiad cyffrous ym Mharc Caerfyrddin, Parc Rhydaman, a Maes y Gors yn Llanelli, gan ddenu teuluoedd a phlant o bob man. Gan gydweithio ag amrywiol wasanaethau yn y Cyngor Sir, y Bwrdd Iechyd, a'r trydydd sector, roedd y digwyddiadau'n gyfle gwych i deuluoedd gysylltu ag adnoddau a dysgu am yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael iddynt.

O greu swigen enfawr i chwarae stecslyd, gweithgareddau sgiliau chwaraeon, a chwarae rhannau rhydd, roedd rhywbeth at ddant pawb. Roedd teuluoedd hefyd yn mwynhau bocs byrbrydau picnic iach.

Roedd y nifer a ddaeth i'r digwyddiadau yn anhygoel gyda dros 400 o blant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau bywiog. Ni fyddai'r digwyddiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus heb ymroddiad a gwaith caled pawb a oedd yn gysylltiedig â nhw—diolch am wireddu'r dathliad hwn o chwarae!

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd:

Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn Sir Gaerfyrddin yn ddathliad gwirioneddol o'n hysbryd cymunedol bywiog. Gadewch i ni barhau i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae fel rhan hanfodol o ddatblygiad a lles ein plant!”